Blwyddyn gosmig (seryddiaeth)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Blwyddyn gosmig yw'r raddfa amser a ddefnyddir i fapio oes bresennol y bydysawd ar lun blwyddyn galendraidd. Yn ôl y raddfa honno, digwyddodd y Glec Fawr ar ddechrau'r 1 Ionawr cosmig am hanner nos yn union, a'r dyddiad ac amser o'r dydd heddiw yw hanner nos ar ddiwedd 31 Rhagfyr. Yn y flwyddyn gosmig nid ymddangosodd Cysawd yr Haul tan y 9fed o Fedi, dechreuodd bywyd ar y Ddaear ar 30 Medi, daeth y deinosoriaid cyntaf ar 25 Rhagfyr a'r epaod a'r egin-ddynion cyntaf ar 30 Rhagfyr. Ni chyrhaeddodd Homo sapiens tan ddeg munud i hanner nos ar y diwrnod olaf, ac mae holl hanes y ddynoliaeth wedi digwydd yn y 21 eiliad olaf yn unig. Ar y raddfa hon mae oes dyn yn cymryd o gwmpas 0.15 eiliad.

Cafodd y raddfa ei boblogeiddio gan y seryddwr adnabyddus Carl Sagan yn ei lyfr The Dragons of Eden a'r gyfres deledu gofiadwy Cosmos, a gyflwynwyd ganddo.

Gweler hefyd[golygu]

Dolen allanol[golygu]