Deinosor
Oddi ar Wicipedia
| Deinosoriaid Amrediad amseryddol: Triasig Canol - Diweddar, 231.4–0 Ma |
|
|---|---|
| Tyrannosaurus rex | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Is-ddosbarth: | |
| Ddim wedi'i restru: | Archosauria |
| Uwchurdd: | Dinosauria Owen, 1843 |
| Prif grwpiau | |
Ymlusgiaid sydd wedi darfod o'r tir, rhai ohonynt yn meddianu corff enfawr, yw deinosoriaid. Yr oedd y deinosoriaid cyntaf yn byw tua 210 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ond amryfalasant yn gyflym ar ôl y cyfnod Triasig. Roeddent yn fwyaf niferus yn ystod y cyfnodau Jwrasig a Chretasaidd, ond wedi'r cyfnod Cretasaidd diflanodd pob rywogaeth ohonynt, heblaw am y rheini a ddatblygodd i fod yn adar, yn ystod y Difodiant Cretasaidd-Paleogen tua 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Defnyddiodd Richard Owen, gwyddonydd o Loegr, y gair Dinosauria yn gyntaf ym mlwyddyn 1842. Mae'r gair hwn yn gyfuniad o'r geiriau Groegaidd deinos ("ofnadwy" neu "arswydus") a sauros ("genau-goeg" neu "ymlusgiad").