Cyn-Gambriaidd
Oddi ar Wicipedia
Enw anffurfiol ar y cyfnodau daearegol cyn cyfnod y Cambriaidd yw'r Cyn-Gambriaidd. Mae'n cynnwys y cyfnodau rhwng ffurfiad y ddaear, tua 4,500 miliwn o flynyddoedd yn ôl, a dechreuad y cyfnod Cambriaidd, tua 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
| Cyn-Gambraidd | |||
|---|---|---|---|
| Hadeaidd | Archeaidd | Proterozoig | Ffanerosöig |
Nodweddir y cyfnod gan ymddangosiad bywyd am y tro cyntaf, organebau un-gell yn bennaf. Tua diwedd y cyfnod, mae organebau aml-gell yn ymddangos.
Yng Nghymru, mae creigiau o'r cyfnod Cyn-Gambriaidd yn arbennig o nodweddiadol o Ynys Môn.