Edward Lhuyd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyfryddiaeth a Chyfarwyddiadur

Roedd Edward Lhuyd (hefyd Llwyd a Lloyd; 1660–30 Mehefin 1709) yn naturiaethwr, botanegwr, ieithydd, daearegydd a hynafiaethydd Cymreig. Ef sgwennodd y disgrifiad gwyddonol cyntaf o'r deinosor Rutellum implicatum[1]. Etholwyd Lhuyd yn aelod o'r Gymdeithas Frenhinol, flwyddyn cyn ei farwolaeth ym 1709. Enwyd y lili a ddarganfodd yn tyfu ar yr Wyddfa am gyfnod yn Lloydia serotina (a adnabyddir bellach fel Gagea serotina) ar ei ôl, yn ogystal â Chymdeithas Edward Llwyd, sef cymdeithas naturiaethol genedlaethol Cymru.

Bywgraffiad[golygu]

Ganwyd Edward Lhuyd yn fab gordderch i Edward Lloyd o Lanforda, ger Croesoswallt, aelod o deulu bonheddig y Llwydiaid, a pherthynas bell iddo, Bridget Pryse o Glanffraid, oedd yn perthyn i un o ganghennau teulu Gogerddan. Magwyd Lhuyd ym mhlwyf Lappington yn Sir Amwythig. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Croesoswallt ac, o 1682 ymlaen, yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, er iddo adael y coleg cyn iddo raddio. Ym 1684 penodwyd ef yn gynorthwyydd i Robert Plot fel Ceidwad Amgueddfa'r Ashmolean yn Rhydychen; bu yntau yn ddiweddarach yn Geidwad yr amgueddfa honno o 1690 hyd 1709.

Edward Llwyd
Lili'r Wyddfa a adnabyddid am ganrifoedd fel Lloydia serotina.

Teithiai Lhuyd ar hyd a lled Prydain yn ei waith. Aeth ar daith i Eryri ym 1688 er mwyn cofnodi planhigion lleol y fro ar gyfer Synopsis Methodica Stirpium Britannicorum, llyfr gan y botanegwr John Ray. Yna, wedi 1697, cychwynnodd Llwyd ar daith o gwmpas pob sir yng Nghymru, yn ogystal â'r Alban, Iwerddon, Cernyw a Llydaw. Argraffwyd Lithophylacii Britannici Ichnographia, ei gatalog o ffosiliaid, a gasglwyd o amgylch ardal Rhydychen yn bennaf, ym 1699 gydag ychydig o gymorth ariannol gan Isaac Newton. Ym 1707 cyhoeddodd Lhuyd y gyfrol Glossography, y gyfrol gyntaf o'r Archaeologia Britannica arfaethedig a'r unig un a welodd olau dydd, sy'n astudiaeth o iaith a diwylliant y gwledydd Celtaidd ar seiliau gwyddonol. Roedd y llyfr yn garreg filltir bwysig yn y meysydd hynny; man cychwyn yr astudiaeth fodern o'r ieithoedd Celtaidd.

Enwyd cymdeithas naturiaethwyr Cymru, sef Cymdeithas Edward Llwyd ar ei ôl.[2]

Englyn coffhád[golygu]

Meini nadd y mynyddoedd - a gwaliau
Ac olion dinasoedd
A dail, dy fyfyrdod oedd
A hanesion hen oesoedd.
John Morgan (c. 1688 - c. 1734)

Llyfryddiaeth[golygu]

  • R.T. Gunther, The Life and Letters of Edward Lhuyd (1945)
  • Frank Emery, Edward Lhuyd (1971)
  • Brynley F. Roberts, Edward Lhuyd, the Making of a Scientist (1980)

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Delair a Sarjeant, 2002
  2. Gwefan Cymdeithas Edwrd Llwyd; adalwyd 6 Chwefror 2014