Dant

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
A - Coron, B - Gwraidd, 1 - Enamel, 2 - Dentin, 3 - Bywyn, 4 - Deintgig, 5 - Smentwm, 6 - Asgwrn, 7 - Pibell waed, 8 - Nerf

Mae dant (lluosog: dannedd) yn helpu i dorri, rhywgo a malu bwyd cyn bod y bwyd yn cael ei lyncu. Mae gwahanol fathau o ddannedd. Mae'r cilddannedd fel arfer yng nghefn y geg yn malu'r bwyd yn fân. Mae'r dannedd llygad yn hir ac yn finiog iawn. Defnyddir dannedd llygad i ddal gafael yn y bwyd. Mae'r blaenddannedd ym mhen blaen y geg, fel yr awgryma'r enw, ac fe'u defnyddir i rwygo'r bwyd.

Mewn llenyddiaeth Gymraeg [golygu]

Ceir sôn am ddannedd yn yr hen benillion:

On'd ydyw yn beth hynod
Fod dannedd merch yn darfod?
Ond tra bo yn ei genau chwyth
Ni dderfydd byth mo'i thafod.
Skull template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Tooth template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ddeintyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am dant
yn Wiciadur.