Y Rhiw

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rhiw)
Y Rhiw
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8212°N 4.6327°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH227281 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref yng nghymuned Aberdaron, Gwynedd, yw Y Rhiw[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad) [2] (weithiau heb y fannod: Rhiw).[3] Fe'i lleolir ar arfordir deheuol Llŷn tua tair milltir a hanner i'r dwyrain o bentref Aberdaron. Credir i'r pentref gael ei henw gan Aelrhiw, sant o'r 6g a cheir eglwys yma o'r enw 'Sant Aelrhiw.

Mae'n sefyll mewn bwlch rhwng Creigiau Gwineu (242 meter) a Clip y Gylfinir (270 m). Ceir manganîs yng nghreigiau Clip y Gylfinir (Mynydd Rhiw), ac ar un adeg bu chwech mwynglawdd yma: yn 1906 cyflogid 200 o ddynion. Ceir golygfa dros fae Porth Neigwl o gyffiniau'r Rhiw ac yn enwedig o gopa Mynydd Rhiw ei hun.

Hynafiaethau[golygu | golygu cod]

Rhyw filltir o'r pentref i gyfeiriad Abersoch mae Plas yn Rhiw, sydd yn awr yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae olion hen fryngaer ar Greigiau Gwineu ac yr oedd ffatri bwyeill o'r cyfnod Neolithig ac Oes yr Efydd ar lethrau Clip y Gylfinir.

Pobl o'r Rhiw[golygu | golygu cod]

  • Ganwyd William Rowland (1887–1979), ysgolfeistr ac awdur, yn Rhiwlas, ym mhentref y Rhiw
  • Ar ôl ymddeol fel ficer plwyf Aberdaron yn 1978, treuliodd y bardd R. S. Thomas ei flynyddoedd olaf yn Y Rhiw, a cheir ei atgofion am hynny yn ei hunangofiant Neb.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 11 Medi 2023
  2. Canolfan Bedwyr
  3. British Place Names; adalwyd 11 Medi 2023

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Oriel[golygu | golygu cod]