Sbectrwm

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sbectrwm gweladwy

Enw ar yr amrwyiaeth o liwiau sy'n bresennol mewn rhai ffynhonnell golau ydy sbectrwm (lluosog: sbectra). Mae'r sbectrwm yn ddod yn amlwg pan wahanir lliwiau (amleddau)'r golau gan ddyfais megis prism. Mae golau gwyn (megis golau'r haul) yn gymysgedd o bob liw, felly mae ganddo sbectrwm di-fwlch neu gyfan. Ond mae gan rai ffynonellau golau eraill, megis lampau sodiwm neu LED, sbectrwm rhannol sy'n cynnwys dim ond rhai amleddau o olau gyda bylchau rhyngddynt.

Mae sbectrwm allyriant rhai sylwedd yn cyfeirio at sbectrwm y golau a fyddai o'n eu bwrw allan, yn arbennig pan gaiff ei boethi, ac mae ei sbectrwm amsugniad yn cyfeirio at y lliwiau sy'n gallu cael ei amsugno ganddo. Oherwydd bod sbectra wahanol gan sylweddau gwahanol, ceir darganfod pa sylweddau sy'n bresennol mewn sampl cemegol trwy edrych ar ei sbectrwm; mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer pethau pell, megis yn seryddiaeth, na allent cael eu mesur yn uniongyrchol. Sbectrosgopeg ydy enw'r maes cyffredinol hwn o wyddoniaeth.

Yn ogystal â defnydd gwyddonol y gair, fe'i ddefnyddir yn drosiadol i gyfeiriau at rywbeth sy'n amrywio rhwng dau eithaf, megis "sbectrwm" barn gwleidyddol. Roedd hefyd cyfrifiadur cartref cynnar yng Ngwledydd Prydain a enwyd yn "ZX Spectrum", gyda logo o sbectrwm arno.

Science-symbol-2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill