Stephen Hawking
Ffisegwr damcaniaethol, cosmolegydd ac awdur llyfrau ar seryddiaeth a gwyddoniaeth yw Stephen William Hawking CH, CBE, FRS, FRSA (ganed yn Rhydychen, 8 Ionawr, 1942)[1][2]; awdur y gyfrol ddylanwadol A Brief History of Time (1988). Mae damcaniaeth y tyllau duon yn ddyledus i'w waith mathemategol arloesol yn ogystal â'r gwaith a wnaeth ar y cyd â Robert Penrose ar ddisgyrchian fel rhan o waith ehangach ar ddamcaniaeth perthnasedd cyffredinol a mecaneg cwantwm.
Mae'n dioddef o glefyd motor niwron o fath ALS sydd wedi gwaethygu dros amser ac mae bellach wedi ei baraleiddio bron yn llwyr. Priododd ddwywaith ac mae ganddo dri o blant.
Yn 1950 pan benodwyd ei dad yn brif ymchwilydd National Institute for Medical Research, symudodd y teulu i St Albans (Swydd Hartford), Swydd Hartford ble'r aeth i'r ysgol leol[3].
Cynnwys |
Llyfryddiaeth [golygu]
Technegol [golygu]
- Singularities in Collapsing Stars and Expanding Universes, gyda D. W. Sciama, 1969.
- Comments on Astrophysics and Space Physics Cyf 1, pennod 1 'The Large Scale Structure of Spacetime,' gyda George Ellis, 1973. ISBN 0-521-09906-4
- The Large, the Small, and the Human Mind, (gyda Abner Shimony, Nancy Cartwright, a Roger Penrose), Cambridge University Press, 1997, ISBN 0-521-56330-5 (clawr caled), ISBN 0-521-65538-2 (clawr papur), Canto: ISBN 0-521-78572-3
- Information Loss in Black Holes, Cambridge University Press, 2005
- God Created the Integers: The Mathematical Breakthroughs That Changed History, Running Press, 2005 ISBN 0-7624-1922-9
Poblogaidd [golygu]
- A Brief History of Time (Bantam Press, 1988) ISBN 0-553-05340-X
- Black Holes and Baby Universes and Other Essays (Bantam Books, 1993) ISBN 0-553-37411-7
- The Universe in a Nutshell (Bantam Press 2001) ISBN 0-553-80202-X
- On The Shoulders of Giants. The Great Works of Physics and Astronomy (Running Press 2002) ISBN 0-7624-1698-X
- A Briefer History of Time (Bantam Books 2005) ISBN 0-553-80436-7
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Larsen 2005, pp. xiii, 2.
- ↑ Ferguson 2011, p. 21.
- ↑ Ferguson 2011, p. 22.