Galaeth
Oddi ar Wicipedia
| Seryddiaeth | |
|
Lleuad |
|
Galaeth yw'r term a ddefnyddir mewn seryddiaeth am gasgliad o sêr, gweddillion sêr a mater rhyngseryddol a gedwir gyda'i gilydd dan ddisgyrchiant.
Y Llwybr Llaethog yw'r galaeth y mae'r Ddaear a Chysawd yr Haul yn trigo ynddi. Gydag Andromeda a galaethau eraill, mae'n un o'r galaethau yn y Grŵp Lleol. Mae'r Grŵp Lleol yn ei dro yn rhan o gasgliad o grwpiau a elwir yn Uwch Glwstwr Virgo.
Dosbarthu galaethau [golygu]
Cynigiodd y seryddwr Edwin Hubble system o ddosbarthu galaethau yn ôl eu ffurf. Mae tri prif ddosbarth:
- E: Galaethau eliptig, amrywiadau o E0 ar ffurf pelen hyd E7 estynedig; fel rheol ychydig o nwy sy'n bresennol.
- S: Galaethau troellog, amrywiadau o Sa hyd Sc, mwy o nwyon yn bresennol.
- SB: Galaethau troellog bariog, amrywiadau o SBa hyd SBc
Ceir hefyd alaethau afreolaidd, Ir (Irregular), na ellir eu dosbarthu yn yr un o'r uchod.
Gweler hefyd [golygu]