Apartheid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

System yn Ne Affrica o gadw pobl o wahanol hil ar wahân oedd Apartheid (Afrikaans, yn golygu "arwahanrwydd"). Gweithredwyd y system rhwng 1948 a 1994. Dechreuwyd datblygu'r system pan gafodd De Affrica statws dominiwn hunanlywodraethol o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig, a daeth i'w llawn dŵf wedi 1948. Dechreuwyd cael gwared o'r system mewn cyfres o drafodaethau rhwng 1990 a 1993, gan ddiweddu gydag Etholiad Cyffredinol 1994, y cyntaf i'w chynnal yn Ne Affrica gyda phawb yn pleidleisio.[1]

Sefydlu Apartheid[golygu]

Dosbarthwyd pob un o drigolion De Affrica i un o bedwar categori: Gwyn, Du, Lliw neu Asiad. Bu llawer o wrthwynebiad i'r system gan y mwyafrif o'r boblogaeth yn enwedig y bobl croenddu a oedd yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd. Dechreuwyd y system dan yr Ymerodraeth Brydeinig i gyfyngu ar symudiadau’r bobl croenddu. Roedd yn rhaid iddynt gael caniatad ysgrifenedig wedi ei arwyddo i gael symud o un ardal i'r llall. Effeithiwyd ar eraill hefyd megis yr Indiaid, gan yr un deddfau, ac arweiniodd Mahatma Gandhi ymgyrch yn erbyn y deddfau yma pan oedd yn gyfreithiwr ifanc yn Ne Affrica.

Arwydd dwy-ieithog yn dweud taw dim ond gwynion gall gael mynedfa i'r ardal.

Datblygwyd y system yn fawr gan Dr Daniel Malan pan ddaeth yn Arlywydd y Blaid Genedlaethol yn 1948. Pasiodd gyfres o ddeddfau oedd yn cyfyngu ar holl hawliau'r bobl croenddu a lliw gan reoli eu symudiad yn llwyr.

Prif Ddeddfau Apartheid[golygu]

Dyma restr o brif-ddeddfau Apartheid a basiwyd yn y 1950au:

Mamwledydd y croenddu[golygu]

Cyrhaeddodd y system ei hanterth yn ystod cyfnod Hendrik Frensch Verwoerd fel Arlywydd. Penderfynodd ymestyn apartheid gan gyfyngu'r croenddu i famwledydd sef y Bantwstanau, gan roi rhyw fath o hunanlywodraeth iddynt dan y Ddeddf Hyrwyddo Hunan Reolaeth Bantw yn 1959. Roedd 7 Bantwstan i gyd gyda’r cyntaf ohonynt, Transkei, wedi’i sefydlu yn 1962. Roedd 70% o boblogaeth croenddu De Affrica yn byw ar 13% o’r tir. O ganlyniad i hyn roedd y tir yn y mamwledydd yn ddi-ffrwyth ac felly aeth nifer o bobl croenddu i chwilio am waith yn y dinasoedd - o dan gyflogwyr gwyn. Incwm blynyddol cyfartalog person du yn Ne Affrica oedd 100 Rand; degfed rhan o incwm cyfartalog person croenwyn.

Roedd y mamwledydd yn rhy fach i gael economi eu hunain ac felly roedd diweithdra yn uchel iawn ac heb hawliau gwleidyddol nid oedd yn bosib protestio. Wrth greu’r mamwledydd ‘annibynnol’ roedd Verwoerd yn meddwl am les y llywodraeth gan dwyllo’r byd i gredu bod llywodraeth De Affrica’n edrych ar ôl y croenddu drwy roi 'hunanllywodraeth' iddynt. Ond nid oedd y mamwledydd yn annibynnol mewn gwirionedd gyda’r llywodraeth genedlaethol yn gallu gwrthwynebu unrhyw benderfyniad gwleidyddol a wnaethont.

I’r nifer o'r bobl croenddu nad oedd yn byw yn y mamwledydd gorfodwyd hwy i fyw yn nhrefgorddau ar yrrion dinasoedd. Enghraifft o hyn yw’r trefgordd yn Johannesburg, Soweto. Roedd 600,000 o bobl yn byw mewn 100,000 uned cartref. Roedd 97% heb ddŵr tap ac roedd dros 85% heb drydan. Roedd diweithdra yn uchel ac roedd y rhan fwyaf o blant yn dioddef o ddiffyg maeth.

Oherwydd y Ddeddf Addysg Bantw a basiwyd yn 1953 roedd y bobl croenddu a’r croenwyn yn mynychu ysgolion ar wahân. Nid oedd rhaid i’r duon fynychu’r ysgol ar ôl ysgol gynradd a gwariwyd deg gwaith llai o arian ar eu haddysg nag addysg y gwynion. Pwrpas eu haddysg oedd i’w cadw i lawr yn economaidd a gwleidyddol. Nid oeddynt yn dysgu Afrikaans na Saesneg sef prif ieithoedd masnach De Affrica ac roedd eu haddysg yn sylfaenol iawn i’w paratoi ar gyfer y swyddi llai medrus. Yn syml roedd y system addysg yn dysgu’r bobl croenddu i wybod eu lle israddol yn y gymdeithas.

Ataliad Gwrthwynebiad Glweidyddol[golygu]

Roedd y Ddeddf Atal Comwinyddiaeth a basiwyd yn 1950 yn atal unrhyw wrthwynebiad gwleidyddol, ac yn yn anghyfreithloni i'r croenddu brotestio a streicio. Yn y 1960au tynhawyd ar y rheolau hyn gan basio’r Ddeddf Ddifrodi a oedd yn caniatáu’r gosb eithaf i wrthwynebwyr gwleidyddol a’r Ddeddf Di-dreial a oedd yn rhoi’r hawl i heddwas arestio unrhyw un a’u carcharu am 90 diwrnod (ymestynwyd hyn i 180 diwrnod yn hwyrach). Yn 1969 sefydlwyd BOSS, sef llu o heddlu cudd a oedd yn rhoi cymorth i'r heddlu cyffredin i sicrhau bod deddfau Apartheid yn cael eu gorfodi.

Sensoriaeth[golygu]

Roedd cwmni darlledu De Affrica’n gryf o blaid y bobl wynion ac felly nid oeddynt yn darlledu unrhyw beth gwrth-apartheid. Nid oedd gan bapurau newydd yr hawl i gyhoeddi unrhyw beth yn erbyn apartheid ac yn y 1960au carcharwyd golygydd y ‘Rand Daily Mail’ am ysgrifennu am yr amodau gwael yn y carchar. Ataliodd y llywodraeth hefyd cyhoeddi llyfrau gwrth-apartheid. Disgrifwyd De Affrica fel "Gwladwriaeth yr Heddlu".

Diwylliant y duon[golygu]

Roedd llenyddiaeth ddu De Affrica yn adlewyrchu tensiynau gwleidyddol a chymdeithasol y wlad. Cyhoeddwyd nifer o lyfrau a oedd yn feirniadol iawn o Apartheid. Roedd diwylliant pobl croenddu De Affrica yn amlwg gyda dawns egnïol y ‘tsabe tsabe’ yn boblogaidd. Ond roedd deddfwriaeth y llywodraeth hefyd yn mygu eu creadigrwydd gyda’r Ddeddf Ardaloedd Grwpiau a basiwyd yn 1950 a gaeodd yr adeiladau dawnsio, celf a cherddoriaeth. O ganlyniad, roedd yn rhaid i nifer o gerddorion ffoi dramor gyda’r diwylliant croenddu wedi’i gyfyngu i’r trefgorddau. Ymestynwyd hyn gan Ddeddf Sefydliadau Sy’n Derbyn Cymorth Y Wladwriaeth a basiwyd yn 1957 oedd yn arwahanu lleoedd cyhoeddus fel llyfrgelloedd a mannau adloniant.

Gwrthwynebiad yn Ne Affrica[golygu]

Gweithredoedd cynnar yr ANC a'r PAC[golygu]

Prif lais dros newid economaidd a gwleidyddol yn Ne Affrica oedd Cyngres Genedlaethol Affrica (ANC). Nod yr ANC oedd ymladd am ddiwed i Apartheid drwy ddulliau heddychlon a di-drais. Ym Mehefin 1952, cerddodd miloedd o dduon drwy ardaloedd gwaharddedig heb eu trwyddedau. Eu bwriad oedd i’w gwneud yn amhosib i’r llywodraeth weithredu’r Ddeddf Ddiddymu Trwyddedau. Ymatebodd y llywodraeth drwy arestio a aeth ymlaen am 6 mis ac erbyn Rhagfyr 1952 roedd 8,000 o dduon yn y carchar. Ym Mehefin 1955 daeth aeloadu’r ANC at ei gilydd i drafod Siarter Ryddid a fynnodd gydraddoldeb gwleidyddol i bawb. Eto ymatebodd y llywodraeth drwy arestio gan gyhuddo’r arweinwyr o frad. Aeth y treialon brad ymlaen am ddwy flynedd a chafodd y prif arweinwyr eu dedfrydu. Gyda’r methiant yn nulliau heddychlon o anufudd-dod sifil yr ANC ffurfiwyd y PAC, sef Cyngres Pan Affrica yn 1959 dan arweiniad Robert Sobukwe. Roeddynt yn credu taw’r unig ffordd o gael gwelliant i’w sefyllfa oedd drwy ddulliau treisgar a chynfyd. Roeddynt yn gwrthod cyd-weithredu â’r gwynion ac felly’n groes i ewyllys yr ANC. Yn syml roedd yr ANC am gael De Affrica i bawb, ac roedd y PAC am gael De Affrica i’r Affricanwyr yn unig.

Blwyddyn ar ôl i’r PAC gael ei ffurfio, aethont ati i drefnu protest dros y wlad i gyd yn erbyn trwyddedau. Roedd yn ymgyrch di-drais er llawer yn fwy cynfyd na gweithredoedd yr ANC ynghynt. Ar Fawrth 21, 1960 casglodd 20,000 o bobl yn nhrefgordd Sharpeville. Dywedodd dystion yn ddiweddarach bod y dorf ddim yn gas ond yn swnllyd. Cwympodd un swyddog gan arwain at yr heddlu yn saethu at y dorf gan ladd 69 person ac anafu 186 arall. Diwrnod wedi’r digwydd galwodd y duon am ddiwrnod o alaru ac felly arhosod yr affricanwyr gartref mewn protest. Ymatebodd y llywodraeth gan wahardd y PAC a’r ANC. Arestiwyd 18,000 o bobl gan gynnwys Sobukwe a gafodd ei ddedfrydu, a chyhoeddwyd stâd o argyfwng gan y llywodraeth. Ychydig o ddiwrnodau yn ddiweddarach gorymdeithiodd miloedd o dduon i’r senedd gan fynnu bod yr arweinwyr yn cael eu rhyddhau, ac eto ymatebodd y llywodraeth drwy alw am stâd o argyfwng. Yn dilyn y digwyddiad cryfhaodd y farn ryngwladol yn erbyn Apartheid a dechreuodd fusnesau amau eu dyfodol yn Ne Affrica.

Ar ôl Sharpeville gorfodwyd i’r ANC a’r PAC weithredu’n dan-ddaearol. Sefydlodd yr ANC gangen dreisgar, Umkhonto we Sizwe, sef Gwaywffyn y Genedl (MK). Dan arweiniad Nelson Mandela trefnodd yr MK nifer o ymgyrchoedd bomio yn erbyn swyddfeyd post a rheilffyrdd nes i Mandela gael eu harestio yn 1962 am ddifrod. Cafwyd achos llys mawr yn Rivonia lle rhoddodd y llywodraeth ddelwedd wael o’r ANC. Cafwyd prif arweinwyr yr MK yn euog ac fe’u dedfrydwyd i oes yn y carchar. Sefydlodd y PAC adran dreisgar hefyd sef POQO (Pur), oedd yn ymgyrchu’n dreisgar yn erbyn y llywodraeth.

Saethiadau Soweto[golygu]

Plentyn marw yn ystod trais yn nhrefgordd Soweto yn 1976.

Cryfhaodd y gwrthwynebiad yn y 1970au gyda’r genhedlaeth iâu llawer yn fwy parod i wrthwynebu’r llywodraeth na’u rhieni. Yn 1976 cyhoeddodd y llywodraeth dylid cyflwyno hanner addysg y duon drwy gyfrwng yr iaith Afrikaans sef iaith roedd y duon yn ei chasáu. Afrikaans oedd iaith y gormeswr ac yn symbol o’u dioddefaint. Felly ym mis Mehefin 1976 gorymdeithiodd 20,000 o fyfyrwyr yn nhrefgordd Soweto. Nid oedd yn brotest cynhyrfus ond trodd yn dreisgar ar ôl i’r heddlu ddechrau taflu nwy dagrau arnynt gan saethu 2 berson ac anafu 12. Ffrwydrodd y trais gyda phobl yn llosgu adeiladau dros Dde Affrica i gyd. Lladdwyd dros 700 o bobl ac arestiwyd miloedd, y rhan fwyaf ohonynt oedd plant. Yn dilyn y digwyddiad gwaharddwyd pob mudiad ymwybyddiaeth y duon gan gynnwys SASO.

Inkatha ya KwaZulu[golygu]

Nid oedd y duon yn hollol unedig yn eu gwrthwynebiad i Apartheid. Roedd y Blaid Inkatha ya KwaZulu, dan arweiniad arweinydd y famwlad KwaZulu, Buthelezi, am gael annibyniaeth o Dde Affrica. Cefnogodd y llywodraeth y syniad hwn a achosodd llawer o drais rhwng yr ANC ac Inkatha gan fod eu syniadau yn groes i syniadau’r ANC o un De Affrica unedig.

Gwrthwynebiad o grwpiau lleiafrifol[golygu]

Er taw’r duon oedd y prif wrthwynebiad i Apartheid roedd nifer o grwpiau ymgyrchu gwyn hefyd. Roedd Plaid Unedig De Affrica yn gwrthod Apartheid ond yn credu mewn arwahanu. Roedd y Blaid Flaengar o blaid gwarchod hawliau dynol ac felly’n gwrthwynebu’r system yn gryf. Roedd y Blaid Ryddfrydol hefyd yn gwrthwynebwyr i’r system er nid oeddynt yn gryf iawn ac felly ni chawsont lawer o effaith. Roedd Plaid y Gyngres hefyd yn gwrthod hiliaeth ond oherwydd eu nifer o aelodau comiwnyddol nid oedd yn gryf iawn ac fe'i gwaharddwyd yn y 1960au. Roedd y mudiad hawliau dynol, Black Sash, sef grŵp o fenywod gwyn yn ymgyrchu yn erbyn Apartheid gan roi cymorth i deuluoedd du tlawd. Roedd unigolion gwyn hefyd yn gwrthwynebu Apartheid fel Tad Trevor Huddleston ac yr Esgob Ambrose Reeves a oedd yn ymgyrchu'n ddi-drais. Yn 1983 sefydlwyd y Ffrynt Democrataidd Unedig (UDF) sef grŵp o bobl o bob lliw a llun a oedd am weld diwedd i Apartheid. Gyda 2,000,000 o aelodau roedd yn fygythiad mawr i’r Blaid Genedlaethol. Roedd yr awdur a dramodydd Athol Fugard (ganwyd 11 Mehefin 1932) yn un o nifer yn y celfyddyddau yn ysgrifennu am Apartheid fel yn ei ddrama 'The Island' (1972) ar y cyd â John Kani, a Winston Ntshona a seilwyd ar fersiwn o Antigone.

Pwysau Rhyngwladol[golygu]

Y Gymanwlad Brydeinig[golygu]

Roedd y Gymanwlad Brydeinig yn gwrthwynebu Apartheid ac roedd Verwoerd yn dadlau ei bod yn cael ei dylanwadu gan wledydd Affricanaidd eraill oed newydd ennill eu hannibyniaeth. Felly yn 1960 pleidleisiodd wynion De Affrica i adael y Gymanwlad i ffurfio gweriniaeth ei hun.

Mandad Namibia[golygu]

Roedd y Cenhedloedd Unedig hefyd yn gwrthwynebu Apartheid ar ôl iddynt gyhoeddi’r Datganiad Cyffredinol Hawliau Dynol yn 1948 a oedd yn datgan bod pob hil yn gyfartal. Ar ôl 1948 bu’r Cenhedloedd Unedig yn gweithredu yn erbyn De Affrica gan ei beirniadu'n hallt ar ôl digwyddiadau fel Sharpeville yn 1960. Roedd y Cenhedloedd Unedig hefyd yn gwrthwynebu rheolaeth De Affrica o Namibia gan ddatgelu bod ei pholisi yn arwain at raniadau gwleidyddol ac felly’n arwain at beryglon diogelwch. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd Namibia (cyn-diriogaeth Almaeing) ei gwneud yn fandad i Dde Affrica. Cymerodd Dde Affrica fantais o hyn gan estyn Apartheid iddi erbyn 1945. Gorchmynodd y Cenhedloedd Unedig bod De Affrica yn ildio Namibia ond gwrthododd gan ddechrau integreiddio’r mandad i Dde Affrica ei hun. Yn 1960 sefydlwyd grŵp gerila SWAPO yn Namibia a fu’n ymladd rhyfel cartref yn erbyn milwyr De Affrica. Parhaodd y trais am 40 mlynedd nes i Namibia gael annibyniaeth yn 1990.

OAU[golygu]

Ar ôl i’r ANC a’r PAC gael eu gwneud yn anghyfreithlon yn 1960 aethont ati i sefydlu swyddfeydd dros y byd. Yn 1963 sefydlont yr OAU oedd yn cydweithredu â’r Cenhedloedd Unedig i ynysu De Affrica drwy orfodi sancsiynau. Nid oedd yr OAU yn llwyddianus oherwydd nid oedd yn bosib iddi sefydlu’n barhaol yng nghwledydd a oedd newydd ennill annibyniaeth oherwydd eu heconomïau gwan a oedd yn ddibynnol ar Dde Affrica.

Sancsiynau economaidd[golygu]

Yn 1960, pleidleisiodd y Cenhedloedd Unedig i orfodi sancsiynau economaidd ar Dde Affrica gan ddechrau annog i’w haelodau dorri cysylltiadau masnachol â hi. Torrwyd y cyflenwad arfau i Dde Affrica ac yn y 1970au gwaharddodd OPEC olew iddi. Yn y 1980au dwysaodd y sancisynau gyda’r Undeb Ewropeaidd yn gorfodi sancisynau economaidd a'r Unol Daleithiau yn gwrthod benthyciadau a buddsoddiadau o fewn De Affrica. Caeodd nifer o fusnesau yn Ne Affrica fel CocaCola a General Motors a gwrthododd y Llychlyn nwyddau o Dde Affrica. Nid oedd y sancsiynau econonaidd yn effeithiol iawn mewn gwlad gyfoethog fel De Affrica. Ni osodwyd y sancsiynau yn ddigon cyson i gael effaith fawr ac nid oedd gwledydd fel Prydain a'r Unol Daleithiau yn barod i wrthwynebu De Affrica oherwydd roeddynt yn dibynnu ar ei mineralau a’i chymorth wrth wrthwynebu comiwnyddiaeth. Serch hyn roedd yna ergyd mawr ar economi De Affrica pan wrthododd fanciau’r gorllewin benthyciadau iddi gan achosi dirwasgiad economaidd yn y 1980au.

Boicotio ym myd chwaraeon[golygu]

Nid oedd Verwoerd yn caniatáu i dduon gynrychioli ei wlad ym myd chwaraeon ac felly yn y 1970au fe ddechreuwyd boicotio De Affrica ym myd chwaraeon. Gwaharddwyd De Affrica o’r Gemau Olympaidd a chyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig basai unrhyw wlad â chysylltiadau chwaraeon gyda De Affrica yn cael ei gwahardd o’r Gemau Olympaidd. Cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig hefyd y Datganiad Rhyngwladol Yn Erbyn Apartheid Ym Myd Chwaraeon a waharddodd Dde Affrica o unrhyw ddigwyddiad chwaraeon mewn ymgais i ynysu’r wlad yn ddiwylliannol. Roedd y boicotio chwaraeon llawer yn fwy llwyddiannus na’r sancsiynau economaidd oherwydd roedd De Affricanwyr gwynion yn gefnogwyr brwd o chwaraeon ac felly rhoddont lawer o bwysau ar y llywodraeth i wella sefyllfa’r duon. Yn y 1980au fe waharddwyd cricedwr Seisnig am 3 blynedd am dorri’r boicot ac roedd nifer o bobl enwog yn cefnogi’r boicot gan roi llawer o bwysau ar lywodraeth Dde Affrica.

Mudiad Gwrth-Apartheid a'r IDF[golygu]

Gweler yr erthygl Gwrthwynebiad i Apartheid yng Nghymru

Anfonodd ddigwyddiadau fel Sharpeville fraaw anferth ymysg cyhoedd y byd gan ddechrau ymgyrch mawr rhyngwladol yn erbyn Apartheid. Fe sefydlwyd mudiad yr IDF a oedd yn gweithredu’n ddi-drais gyda’r nod o weld De Affrica ddemocrataidd heb hiliaeth. Fe gasglont arian i amddiffyn pobl oedd ar brawf am wrthwynebu Apartheid. Gwnaethont hefyd dynnu sylw i propaganda llywodraeth yn Ne Affrica. Roedd y Mudiad Gwrth Apartheid hefyd yn ymgyrchu dros y byd i gyd. Fe gynhaliont brotestiadau dros y byd gan roi grantiau i’r ANC. Ym Mhrydain gwnaeth y mudiad foicotio banciau a oedd â chysylltiadau â De Affrica a chynhaliwyd gwrthdystiadau y tu fas i gwmnïau Prydeinig a oedd â chysylltiadau masnachol.

Diddymu Apartheid[golygu]

Yn 1978 daeth P.W. Botha yn Arlywydd De Affrica. Roedd yna ddirwasgiad economaidd oherwydd y sancsiynau, roedd tŵf anferth yn y boblogaeth wedi bod, ac roedd ymosodiadau gerila yn gyson. Roedd yn sylweddoli bod angen newid ond nid oedd am roi’r gorau i Apartheid. Er mwyn ceisio datrys problemau’r wlad cyflwynodd y Strategaeth Lwyr. Crëodd ddosbarth canol o Affricanwyr duon gyda hawliau a sgiliau newydd a fyddai'n gwrthsefyll y gweithredwyr duon yn y trefgorddau. Gwnaeth wledydd cyfagos yn ddibynol yn economaidd ar Dde Affrica ac felly’n amddiffyn y wlad rhag ymosodiadau gerila. Fe adawodd hefyd i bobl dduon rhannu eu barn am rai materion gwleidyddol a chafodd wared o lawer o ddedfau ‘petty apartheid’ gan wneud undebau’n gyfreithlon, diddymu'r deddfau priodas, perthnasoedd a thrwyddedau. Yn 1984 aeth ati i newid y cyfansoddiad gan greu senedd gyda 3 siambr gydag Asiaid, lliw, a’r gwynion ar wahân.

Nelson Mandela yn cael ei ryddhau o'r carchar yn 1990.

Roedd nifer yn dadlau ei fod yn ehangu Apartheid drwy wneud hyn gan fod hiliau dal i fod ar wahân, roedd rhaid i benderfyniadau gwleidyddol gan yr Asiaid neu’r bobl liw gael eu cymeradwyo gan y bobl wynion ac roedd duon wedi eu torri i ffwrdd o wleidyddiaeth yn llwyr. Nid oedd eu syniadau yn ddigon pellgyrhaeddiol oedd y farn ryngwladol.[angen ffynhonnell]

Yn y 1980au cynyddodd wrthwynebiad y duon. Galwodd yr ANC i’w aelodau ei gwneud yn amhosib i’r llywodraeth weithredu. Bu llawer o aflonyddwch yn nhrefgorddau Transvaal yn erbyn rhannau o’r Strategaeth Lwyr ac roedd protestiadau heddychlon yn troi’n chwerw dros y wlad i gyd. Bu llawer o drais rhwng yr ANC ac Inkatha gyda’r ANC yn eu cyhuddo o gyd-weithio gyda’r llywodraeth. Wrth agosáu at ryfel cartref galwodd y llywodraeth am stâd o argyfwng. Erbyn 1986 roedd 800 o bobl wedi eu lladd, 20,000 o bobl wedi eu hanafu, a 14,000 wedi eu harestio. Mewn cais i atal y trais gwnaeth Botha ei ‘Araith Rubicon’ yn 1985. ‘Rubicon’ yw’r gair Afrikaans am ‘ddim troi ‘nôl’ felly roedd y byd i gyd yn disgwyl newidiadau mawr. Siomwyd y byd gan ei araith a oedd yn dangos nid oedd yn bwriadau newid llawer o gwbl. Roedd yn amlwg nid oedd y llywodraeth yn barod i newid y sefyllfa ac felly gadawodd fwy o fusnesau Dde Affrica ac fe sefydlodd yr Unol Daleithiau Fudiad Gwrth Apartheid. Yn 1988 roedd y sancsiynau yn achosi dirwasgiad economaidd, ac roedd holl drais wedi tynnu’r wlad at ryfel cartref bron.

Daeth yr ateb o’r Blaid Genedlaethol ei hun pan gafodd Botha strôc a daeth F. W. de Klerk yn Arlywydd yn 1989. Roedd de Klerk yn sylweddoli bod Apartheid methu parhau a bod rhaid rhannu’r pŵer rhwng yr hiliau. Yn 1990 cyfreithlonodd yr ANC a’r PAC a rhyddhaodd y carcharorion gwleidyddol. Gyda Nelson Mandela yn ôl yn yn ei rôl fel arweinydd yr ANC dechreuodd drafod gyda’r llywodraeth a chytunodd yr ANC gael cadoediad. Yn 1991 diddymwyd y ddeddfau perchen tiroedd, ardaloedd byw a dosbarthu hil. Cyhuddwyd Inkatha o fod yn fradwyr gan yr ANC pan ddaeth yn amlwg eu bod wedi derbyn arian wrth y llywodraeth ac felly ffrwydrodd y trais rhyngddynt unwaith eto.

Ym mis Medi 1991 llofnodwyd y Cytundeb Heddwch Cenedlaethol ac yn Rhagfyr 1991 daeth bleidiau at ei gilydd heblaw am Inkatha i drafod CODESA, sef Cytundeb Ar Gyfer De Affrica Ddemocrataidd. Daethont at ei gilydd i drafod cyfansoddiad newydd hefyd. Fe gytunont o'r diwedd ar ffurfio De Affrica rhydd lle byddai’r un hawliau a dinasyddiaeth gan bawb. Er mwyn atal trais o’r dde cynhaliodd de Klerk reffrendwm ar gyfer y gwynion yn unig a chytunodd Mandela yn awyddus i bethau barhau. Rhoddodd 68% o’r gwynion eu cefnogaeth. Yn 1992 gwaethygodd y trais yn Transvaal a Boipatong lle saethwyd a thrywanwyd 45 person i'w marwolaeth. Roedd yna hefyd llofruddiaethau cyson rhwng yr ANC ac Inkatha ac ym mis Medi 1992 saethodd filwyr 200 person yn ngorymdaith yn Bisho. Gyda’r trais parhaol a’r dirwasgiad economaidd sylweddolodd wleidyddion bod angen newid. Yn Ebrill 1993 bu trafodaethau rhwng y PAC a’r gwynion ar y dde.

Ar ddechrau 1994 dechreuwyd paratoi ar gyfer pleidlais i bawb yn Ne Affrica; deg gwaith yn fwy nag unrhyw etholiad erioed o’r blaen. Cynhaliwyd yr etholiad dan gyfansoddiad dros dro gyda chynrychiolaeth gyfrannol. Ar Ebrill 27, 1994 enillodd yr ANC fuddugoliaeth o 62% er nad oedd hyn yn fwyafrif ac felly nid oeddynt yn gallu ffurfio cyfansoddiad eu hun. Enillodd y Blaid Genedlaethol 20% o’r bleidlais a daeth Inkatha yn drydydd gyda 11%. Mewn seremoni lliwgar yn Rivonia ym Mai 1994 daeth Nelson Mandela yn Arlywydd De Affrica gyda de Klerk yn ddirprwy Arlywydd. Yn fuan cafodd y sancsiynau eu codi ac fe ail-grëwyd cysylltiadau diwylliannol. Ailddechreuodd berthynas fasnachol gyda’r Undeb Ewropeaidd ac ailddechreuodd y berthynas gyda’r Gymanwlad.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Nodyn:IAITH:EN Gwefan y BBC; Cyhoeddwyd 1009; ADALWYD 18/02/2012