African National Congress

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Plaid lywodraethol De Affrica yw'r African National Congress (ANC), ers i reolaeth fwyafrifol gael ei sefydlu ym mis Mai 1994. Derbyniant gefnogaeth wrth gynghrair teir-rhan gyda Chynghrair Undebau Llafur De Affrica (COSATU) a Plaid Gomiwnyddol De Affrica (SACP). Diffinia'r blaid ei hun fel "grym disgybledig yr adain chwith". Sefydlwyd y blaid yn Bloemfontein ym mis Ionawr 1912 o dan yr enw South African Native National Congress (SANNC) er mwyn cynyddu hawliau y bobl dduon yn Ne Affrica. Roedd John Dube yn lywydd cyntaf i'r blaid a'r bardd a'r awdur Sol Plaatje yn un o'r aelodau cyntaf. Newidiodd y sefydliad ei enw i'r ANC ym 1923 a ffurfiwyd adain filwrol, y Umkhonto we Sizwe (Gwaywffon y Genedl) ym 1961.

Mae'r blaid wedi bod yn rheoli'r wlad ar lefel genedlaethol ers diwedd apartheid ym 1994. Cynyddodd canran y blaid o'r bleidlais yn etholiadau 1999 a chynyddodd ymhellach yn 2004.