Transvaal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Rhanbarth yn Ne Affrica yw'r Transvaal.

Y Transvaal (yn llythrennol, Gerllaw’r vaal [afon] yn Afrikaans) oedd un o'r colonïau Prydeinig a gyfunwyd i ffurfio Undeb De Affrica yn 1910. Ar ol y rhyfel Eingl-Boer 1899-1902 daeth y rhan fwyaf o weriniaeth De Affrica yn rhan goloni'r Transvaal ac ymunodd y gweddill â Natal. Roedd yn un o rhanbarthau gweinyddol De Affrica o 1910 hyd 1994 ond dydy’r rhanbarth bellach ddim yn bodoli. Mae'r diriogaeth nawr yn rhan o ranbarthau eraill fel Gauteng, Limpopo a Mpumalanga a rhan o Dalaith y Gogledd-orllewin. Ond mae'r Transvaal yn dal i fodoli fel uned ddaearyddol a hanesyddol.

Flag of South Africa.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Dde Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.