Gwobr Heddwch Nobel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Gwobr Heddwch Nobel (Swedeg, Daneg a Norwyeg: Nobels fredspris) yn un o bum Gwobr Nobel a roddwyd gan y diwydiannwr a'r dyfeisiwr Swedaidd Alfred Nobel. Yn ôl ewyllys Nobel, dylid cyflwyno'r Wobr Heddwch "i'r person sydd wedi gwneud fwyaf neu'r gwaith gorau i hybu brawdgarwch ymysg cenhedloedd, i ddiddymu neu leihau byddinoedd ac am gynnal a hyrwyddo cynghreiriau heddychlon."[1]

Nododd Alfred Nobel y dylai'r wobr gael ei chyflwyno gan bwyllgor o bump o bobl a ddewiswyd gan Lywodraeth Norwy. Bryd hynny, roedd undeb rhwng Norwy a Sweden, a chyda Sweden yn gyfrifol am yr holl bolisi tramor, teimlai Nobel y byddai'r wobr yn llai tueddol o gael ei ddefnyddio am resymau gwleidyddol pe cawsai ei roi gan Norwy. Cyflwynir y Wobr Heddwch yn flynyddol yn Oslo, ym mhresenoldeb y Brenin, ar 10 Rhagfyr (sef dyddiad marwolaeth Nobel). Dyma yw'r unig Wobr Nobel na sydd yn cael ei chyflwyno yn Stockholm. Yn Oslo, cyflwyna Cadeirydd y Pwyllgor Nobel Norwyaidd y Wobr Heddwch Nobel ym mhresenoldeb Brenin Norwy. Yn llygad y cyfryngau' rhyngwladol, derbynia'r enillydd Nobel (neu'r 'Llawryf' fel caiff ei alw weithiau) dri pheth: diploma, medal a dogfen sy'n cadarnhau gwerth y wobr. Cynhelir y Seremoni Gwobr Heddwch Nobel yn Neuadd y Ddinas, Oslo, a'r diwrnod canlynol cynhelir Cyngerdd Gwobr Heddwch Nobel, a ddarlledir i dros 450 miliwn o gartrefi mewn dros 150 o wledydd ledled y byd.

Weithiau, mae'r dewis o enillwyr Gwobr Heddwch Nobel yn ddadleuol, am ei fod wedi dod yn rhywbeth gwleidyddol na sydd bob adeg yn gysylltiedig â heddwch e.e. cafwyd cryn anniddigrwydd gan bobl megis Mairead Corrigan pan roddwyd y Wobr i Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama. Mae'r enillwyr hefyd wedi cynnwys pobl a arferai ddefnyddio trais a therfysgaeth, ond a drodd eu cefn ar drais yn ddiweddarach er mwyn ceisio sicrhau heddwch.

Rhestr o enillwyr Gwobr Nobel am Heddwch[golygu]

Dengys y rhestr isod bobl a enillodd Gwobr Nobel am Heddwch, un o'r Gwobrau Nobel:

1901
Jean Henri Dunant, y Swistir am sefydlu'r Groes Goch ac am awgrymu Cytundeb Genefa
Frédéric Passy, Ffrainc am sefydlu a fod yn arlywydd Société Française pour l'arbitrage entre nations.
1902
Élie Ducommun y Swistir a Charles Albert Gobat, ysgrifenyddion mygedol y Permanent International Peace Bureau yn Berne.
1903
Syr William Randal Cremer Y Deyrnas Unedig ysgrifennydd yr International Arbitration League.
1904
Institut de droit international yn Gent, Gwlad Belg
1905
Bertha Sophie Felicitas Baronin von Suttner, née Iarlles Kinsky von Chinic und Tettau, Awstria, lenor ac arlywydd mygedol y Permanent International Peace Bureau.
1906
Theodore Roosevelt, arlywydd yr Unol Daleithiau am ddraffrtio'r cytundeb heddwch ar ôl y rhyfel rhwng Rwsia a Siapan
1907
Ernesto Teodoro Moneta, yr Eidal, arlywydd y Lombard League of Peace a
Louis Renault, Ffrainc, athro prifysgol ym maes Cyfraith Rhyngwladol
1908
Klas Pontus Arnoldson, Sweden, am sefydlu'r Swedish Peace and Arbitration League a
Fredrik Bajer, Denmarc, arlywydd mygedol y Permanent International Peace Bureau
1909
Auguste Marie Francois Beernaert Gwlad Belg aelod y Cour Internationale d'Arbitrage a
Paul Balluet d'Estournelles de Constant, Baron de Constant de Rebecque Ffrainc, am sefydlu a bod yn arlywydd y French parliamentary group for international arbitration ac am sefydlu'r Comité de défense des intérets nationaux et de conciliation internationale
1910
Bureau International Permanent de la Paix, Berne
1911
Tobias Michael Carel Asser, yr Iseldiroedd, am hyfforddi'r International Conferences of Private Law yn yr Hâg a
Alfred Hermann Fried, Awstria, am sefydlu Die Waffen Nieder
1912
Elihu Root, yr Unol Daleithiau (UDA),
1913
Henri la Fontaine, Gwlad Belg, arlywydd y Permanent International Peace Bureau
1914
Dim
1915
Dim
1916
Dim
1917
Y Groes Goch Ryngwladol, Geneva
1918
Dim
1919
Woodrow Wilson, UDA, am sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd
1920
Léon Victor Auguste Bourgeois, arlywydd Cyngor y Cynghrair y Cenhedloedd
1921
Hjalmar Branting, Sweden, Prif Weinidog, cynrychiolydd Sweden ar Gyngor Cynghrair y Cenhedloedd
Christian Lous Lange, Norwy, ysgrifennydd cyffredin yr Inter-Parliamentary Union
1922
Fridtjof Nansen, Norwy, cynrychiolydd Norwy ar Gynghrair y Cenhedloedd ac am greu Pasbort Nansen i ffoaduriaid.
1923
Dim
1924
Dim
1925
Syr Austen Chamberlain, DU am Gytundeb Locarno a
Charles Gates Dawes, UDA, am fod yn gadeirydd yr Allied Reparation Commission ac am greu'r Dawes Plan
1926
Aristide Briand, Ffrainc am Gytundeb Locarno a
Gustav Stresemann, yr Almaen am Gytundeb Locarno
1927
Ferdinand Buisson, Ffrainc am sefydlu a gweithio fel arlywydd y League for Human Rights a
Ludwig Quidde, yr Almaen, cynrychiolydd i gynadleddau heddwch niferus
1928
Dim
1929
Frank B. Kellogg, UDA am y Briand-Kellogg Pact
1930
Archesgob Lars Olof Nathan (Jonathan) Söderblom, Sweden, arweinydd y mudiad eciwmenaidd
1931
Jane Addams, UDA, arlywydd rhyngwladol y Women's International League for Peace and Freedom a
Nicholas Murray Butler, UDA am hyrwyddo'r Briand-Kellogg Pact
1932
Dim
1933
Sir Norman Angell (Ralph Lane), DU, llenor, aelod o Bwyllgor Gweithredol Cynghrair y Cenhedloedd a'r National Peace Council
1934
Arthur Henderson, DU, cadeirydd Disarmament Conference Cynghrair y Cenhedloedd
1935
Carl von Ossietzky, yr Almaen, newyddiadurwr a heddychwr
1936
Carlos Saavedra Lamas, yr Ariannin, arlywydd Cynghrair y Cenhedloedd a chyfryngwr rhwng Paraguay a Bolifia
1937
Cecil o Chelwood, am sefydlu a bod yn arlywydd yr International Peace Campaign
1938
Nansen International Office For Refugees, Geneva.
1939
Dim
1940
Dim
1941
Dim
1942
Dim
1943
Dim
1944
Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch (gwobrwywyd yn ôl-weithredol ym 1945)
1945
Cordell Hull, UDA am gyd-sefydlu'r Cenhedloedd Unedig
1946
Emily Greene Balch, UDA arlywydd rhyngwladol mygedol y Women's International League for Peace and Freedom a
John R. Mott, UDA, cadeirydd yr International Missionary Council ac arlywydd y World Alliance of Young Men's Christian Associations
1947
The Friends Service Council, UD, a'r American Friends Service Committee, UDA, ar ran Gymdeithas Grefyddol Cyfeillion.
1948
Dim
1949
Lord John Boyd Orr of Brechin, DU, arlywydd y General Food and Agricultural Organization, arlywydd y National Peace Council ac arlywydd y World Union of Peace Organizations
1950
Ralph Bunche am gyfryngu ym Mhalestina (1948).
1951
Léon Jouhaux, Ffrainc, arlywydd yr International Committee of the European Council, is-arlywydd International Confederation of Free Trade Unions, is-arlywydd World Federation of Trade Unions, aelod o ILO Council, dirprwy i'r Cenhedloedd Unedig
1952
Albert Schweitzer, Ffrainc, am sefydlu'r Lambarene Hospital yn Gabon
1953
Ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau George Catlett Marshall am y Marshall Plan
1954
Swyddfa'r United Nations High Commissioner for Refugees
1955
Dim
1956
Dim
1957
Lester Bowles Pearson, ar y pryd yn Brif Weinidog Canada ac yn arlywydd 7fed sesiwn Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig am greu lluoedd heddwch yn ystod Argyfwng Suez.
1958
Georges Pire, Gwlad Belg, arweinydd L'Europe du Coeur au Service du Monde, sefydliad dyngarol ar gyfer ffoaduriaid
1959
Philip Noel-Baker, DU, am ei waith di-flino dros heddwch a chydweithiad rhyngwladol
1960
Albert Lutuli, De Affrica, arlywydd yr ANC (African National Congress)
1961
Dag Hammarskjöld, Sweden, ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (ar ôl iddo farw).
1962
Linus Carl Pauling, UDA am ei ymgyrch yn erbyn profion arfau atomig
1963
Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch, Geneva a
League of Red Cross Societies, Geneva.
1964
Martin Luther King Jr, UDA am ei ymgyrch dros hawliau sifil
1965
UNICEF
1966
Dim
1967
Dim
1968
René Cassin, Ffrainc, arlywydd Llys Ewropeaidd Hawliau Dynol
1969
International Labour Organization (I.L.O.), Geneva.
1970
Norman Borlaug, UDA am ei ymchwyl i'r International Maize and Wheat Improvement Center
1971
Canghellor Willy Brandt, yr Almaen, am Ostpolitik Gorllewin yr Almaen sydd yn dangos agwedd newydd ar gyfer Dwyrain Ewrop a Dwyrain yr Almaen
1972
Dim
1973
Ysgrifenydd Gwladol Henry A. Kissinger, UDA a Gweinidog Tramor Le Duc Tho, Fietnam (gwrthododd), am ei waith "for the Vietnam peace accord".
1974
Seán MacBride, Iwerddon, arlywydd yr International Peace Bureau a Chomisiwn Namibia y Cenhedoledd Unedig a
Eisaku Sato, Siapan, Prif Weinidog
1975
Andrei Dmitrievich Sakharov, Undeb Sofietaidd am ei ymgyrch dros hawliau dynol
1976
Betty Williams a Mairead Corrigan am sefydlu Northern Ireland Peace Movement (newidwyd ei enw i Community of Peace People yn ddiweddarach)
1977
Amnesty International, Llundain, am ei ymgyrch yn erbyn artaith
1978
Arlywydd Mohamed Anwar Al-Sadat, yr Aifft a Phrif Weinidog Menachem Begin, Israel am drafodaeth heddwch rhwyng yr Aifft ac Israel
1979
Y Fam Teresa, ymgyrchwraig dros ymwybyddiaeth o dlodi (India)
1980
Adolfo Pérez Esquivel, yr Ariannin dros hawliau dynol
1981
Swyddfa'r United Nations High Commissioner for Refugees
1982
Alva Myrdal, Sweden a Alfonso García Robles, Mecsico, cynrychiolyddion i General Assembly on Disarmament y Cenhedloedd Unedig
1983
Lech Wałęsa, Gwlad Pwyl, am sefydlu Solidarność a'i ymgyrch dros hawliau dynol; arlywydd cyntaf y wlad ar ôl cwymp Comiwnyddiaeth
1984
Esgob Desmond Mpilo Tutu, De Affrica, am ei waith yn erbyn Apartheid
1985
International Physicians for the Prevention of Nuclear War, Boston.
1986
Elie Wiesel, UDA, llenor, a oroesodd yr Holocost
1987
Óscar Arias Sánchez, Costa Rica, am sefydlu trafodaeth heddwch yn America Canolog
1988
Lluoedd heddwch y cenhedloedd unedig, Efrog Newydd
1989
Tenzin Gyatso, y pedwerydd Dalai Lama ar ddeg.
1990
Mikhail Sergeyevich Gorbachev, Arlywydd yr Undeb Sofietaidd am helpu i ddod â'r Rhyfel Oer i ben
1991
Aung San Suu Kyi, Burma, arweinydd gwrthblaid ac ymgyrchydd dros hawliau dynol
1992
Y llenor Rigoberta Menchú, Gwatemala, am ei ymgyrch dros hawliau dynol, yn bennaf i bobloedd cynhenid
1993
Arlywydd Nelson Mandela, De Affrica a'r arlywydd blaenorol Frederik Willem de Klerk, De Affrica, "for their work for the peaceful termination of the apartheid regime, and for laying the foundations for a new democratic South Africa"
1994
Yasser Arafat, Cadeirydd y PLO (Palesteina), Shimon Peres, Gweinidog Tramor Israel a Yitzhak Rabin, Prif Weinidog Israel, am ddiweddu'r Oslo peace accords
1995
Joseph Rotblat, Gwlad Pwyl/DU) a'r Pugwash Conferences on Science and World Affairs am eu hymgyrch yn erbyn arfau niwclear
1996
Carlos Felipe Ximenes Belo, Dwyrain Timor, a José Ramos Horta, Dwyrain Timor, am eu gwaith dros ddatrys y gwrthdaro yn Nwyrain Timor
1997
International Campaign to Ban Landmines (ICBL) a Jody Williams am eu hymgyrch ar gyfer gwahardd a chlirio ffrwdrynnau tir
1998
John Hume, DU a David Trimble, DU, am eu gwaith dros ddatrys y gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon
1999
Médecins Sans Frontières, Brwsel
2000
Arlywydd Kim Dae Jung, De Corea am ei waith ar dros ddemocratiaeth a hawliau dyngarol ac yn arbennig am ei ymgyrch ar gyfer perthynas y De gyda Gogledd Corea
2001
Kofi Annan, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ghana
2002
Jimmy Carter, cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau "for his decades of untiring effort to find peaceful solutions to international conflicts, to advance democracy and human rights, and to promote economic and social development"
2003
Shirin Ebadi, Iran, "am ei waith dros hawliau dyngarol a thros democratiaeth."
2004
Wangari Maathai, Kenya, "am ei chyfraniad i ddatblygiad cynaladwyaeth, democratiaeth a heddwch."
2005
Yr IAEA a Mohamed ElBaradei, Yr Aifft, "am eu hymdrech i atal ynni niwclear rhag cael ei ddefnyddio at amcanion milwrol, a bod ynni niwclear ar gyfer amcanion heddychlon yn cael ei ddefnyddio yn y modd mwyaf diogel posibl."

Cyfeiriadau[golygu]