Y Lan Orllewinol

Oddi ar Wicipedia
y Lan Orllewinol
Mathtiriogaeth dan feddiant, tiriogaeth ddadleuol, rhan o Balesteina Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlgorllewin Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1949 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMahmoud Abbas Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGwladwriaeth Palesteina, Tiriogaethau Palesteinaidd, Israeli-occupied territories Edit this on Wikidata
GwladGwladwriaeth Palesteina, Israeli-occupied territories Edit this on Wikidata
Arwynebedd5,860 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Marw, Afon Iorddonen Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaIsrael, Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32°N 35.35°E Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMahmoud Abbas Edit this on Wikidata
Map
Map o'r Lan Orllewinol

Y Lan Orllewinol yw'r enw ar un o Diriogaethau Palesteinaidd yn y Dwyrain Canol ar lan orllewinol Afon Iorddonen, rhwng Israel yn y gorllewin a Gwlad Iorddonen yn y dwyrain. Un o'r symbolau yn erbyn Israel yw merch ifanc o'r enw Ahed Tamimi, a garcharwyd heb dreial yn 2017 am herio plismyn arfog.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae'n cynnwys bryniau Judaea a Samaria a rhan o ddinas Jeriwsalem. Mae prif ddinasoedd a threfi'r Lan Orllewinol yn cynnwys Jenin, Nablus, dwyrain Jeriwsalem, Bethlehem, Ramallah, Hebron a Jericho. Ceir hefyd ddinas newydd Rawabi.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn rhan o Balesteina yn sgîl yr Ail Ryfel Byd, daeth i feddiant Gwlad Iorddonen ar ôl cadoediad 1949 a sefydlu gwladwriaeth Israel. Cafodd ei meddiannu eto gan Israel yn y Rhyfel Chwe Diwrnod Israel-Arabiaidd (1967).

Gweinyddiad[golygu | golygu cod]

Newidiodd polisïau gweinyddiad y Lan Orllewinol yn sgil arwyddo cytundeb Oslo II ym 1995 gan Yasir Arafat a Yitzak Rabin. Rhannwyd y tir yn dri chategori gweinyddol ardaloedd A, B ac C (nid yw'r ardaloedd yn ddi-dor), ac 11 dalgylch. Ar hyn o bryd, mae ardaloedd A, B ac C yn cynrychioli 17%, 24% a 59% o'r arwynebedd yn ôl eu trefn. Mae awdurdod sifil llawn gan yr Awdurdod Cenedlaethol Palesteina yn ardal A, gweinyddir ardal B ar y cyd rhwng yr Awdurdod ac Israel, tra bod ardal C dan reolaeth Israelaidd llawn. Mae'n debyg fod 98% o boblogaeth Palesteina yn byw yn ardaloedd A a B. Erys nifer o drefedigaethau Israelaidd ar y tir mwyaf ffrwythlon yn y gorllewin. Mae Israel yn dal ei gafael ar y rhan fwyaf o'r trefedigaethau, nifer o'r ardaloedd gwledig, y ffyrdd, y cyflenwad dŵr, yr awyr uwch y Lan gyfan, a'r ardaloedd ar y ffiniau.

Mae Israel wedi codi mur rhyngddi a'r Lan Orllewinol.

Map o'r trefedigaethau a chaedigaethau ers Ionawr 2006. Yr ardaloedd melyn yw'r prif drefi Palesteinaidd. Ardaloedd milwrol caedig, ar ffin y trefedigaethau, neu ardaloedd a ynysir gan Fur Israelaidd y Lan Orllewinol yw'r ardaloedd pinc golau. Gwladychiadau Israelaidd, allbyst a chanolfannau milwrol yw'r ardaloedd pinc tywyll. Dengys y lein du llwybr y Mur.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]