Palesteina

Oddi ar Wicipedia
Palesteina
Mathrhanbarth, ardal hanesyddol, divided region, ardal ddiwylliannol, tiriogaeth dan feddiant, cyrchfan i dwristiaid Edit this on Wikidata
LL-Q150 (fra)-Fabricio Cardenas (Culex)-Palestine.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,420,000 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe Lefant Edit this on Wikidata
LleoliadDe-orllewin Asia Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Arwynebedd6,020 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.625321°N 35.145264°E Edit this on Wikidata
Map
Mae'r erthygl hon yn disgrifio'r tiriogaeth hanesyddol a elwir yn 'Palesteina'. Ceir erthygl arall am Wladwriaeth Palesteina heddiw.
Baner Palesteina
Cynllun aa basiwyd gan y Cenhedloedd Unedig i rannu Israel yn ddwy wlad; 1947.[1].

Tiriogaeth hanesyddol yn y Dwyrain Canol sy'n gorwedd rhwng y Môr Canoldir ac Afon Iorddonen a gwlad a grewyd ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf o dan reolaeth Prydain wrth i hen Ymerodraeth yr Otomaniaid yn y Dwyrain Canol ddarnio yw Palesteina. Cyfeirir ati yn aml wrth yr enw Y Tir Sanctaidd hefyd, am ei bod yn cynnwys lleoedd sy'n gysegredig i'r tair crefydd Abrahamig, sef Cristnogaeth, Iddewiaeth ac Islam. Er na fu iddi hanes hir fel uned wleidyddol fodern, llwyddwyd yn sgîl sefydlu gwladwriaeth Iddewig Israel ar yr un diriogaeth, i lunio hunaniaeth Balesteinaidd genedlaethol, a gâi ei mynegi'n bennaf trwy Fudiad Rhyddid Palesteina (PLO).

Bellach mae gan y Palesteiniaid wladwriaeth yn y Tiriogaethau Palesteinaidd hyn: Llain Gaza, rhwng Israel a'r Aifft ar lan y Môr Canoldir, a reolir gan Awdurdod Cenedlaethol Palesteina. Mae'r Lan Orllewinol, rhwng Israel a Gwlad Iorddonen, hefyd o dan reolaeth yr Awdurdod hwn. Fodd bynnag, mae'r tiriogaethau hyn yn cael eu hystyried yn Diriogaethau a Feddianwyd gan y Palesteiniaid a'r Cenhedloedd Unedig am fod Israel yn rheolwr de facto arnynt o hyd. Mae tua 100 o wledydd led-led y byd yn cydnabod hawl y Palesteiniaid i'w hanibyniaeth. Ar 3 o Hydref 2014 cafwyd anerchiad gan Brif Weinidog Sweden y byddai ei wlad yn cydnabod cenedl Palesteina ac yna ar 13 Hydref 2014 pleidleisiodd Llywodraeth y DU o 274 i 12 o blaid cydnabod Palesteina yn genedl.[2][3][4] Yn Ionawr 2015 cyhoeddwyd y byddai y Llys Troseddau Rhyngwladol yn agor Ymchwiliad i droseddau yn ymwneud ag Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae Palesteina heddiw yn diriogaeth sy'n cynnwys gwladwriaeth Israel a'r Tiriogaethau Palesteinaidd. Mae'r diriogaeth yma yn cael ei ffinio gan Libanus a Syria i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain, Gwlad Iorddonen i'r dwyrain a'r Aifft (gorynys Sinai) i'r de-orllewin. Ceir arfordir hir ar lan y Môr Canoldir. Dynoda Afon Iorddonen y ffin ddwyreiniol.

Gweler hefyd:

Hanes[golygu | golygu cod]

Gorwedd Palesteina mewn lleoliad strategol rhwng yr Aifft i'r gorllewin a gweddill y Lefant a'r Dwyrain Canol i'r gogledd a'r dwyrain. Mewn canlyniad mae sawl ymerodraeth wedi brwydro i'w meddiannu a'i rheoli ers gwawr hanes.

Mae pobl wedi byw yn yr ardal o'r cyfnod cynhanesyddol ymlaen. Ceir rhai o ddinasoedd hynaf y byd yno, fel Jericho. Tua diwedd yr ail fileniwm Cyn Crist ymsefydlodd yr Hebreaid yno, wedi eu harwain allan o gaethiwed yn yr Hen Aifft gan Moses, yn ôl Llyfr Exodus yn yr Hen Destament. Sefydlodd y brenin Saul deyrnas yno tua 1,000 CC. Bu'n gartref i'r Ffilistiaid a sawl pobl arall hefyd, fel y Ffeniciaid a sefydlodd canolfannau fel Gaza. Yn dilyn teyrnasiad y brenin Solomon ffurfiwyd teyrnasoedd Israel a Judaea. Cwmcwerwyd y cyntaf gan yr Assyriaid a'r olaf gan y Babiloniaid. Bu'n rhan o ymerodraeth Alecsander Fawr am gyfnod cyn dod yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig. Yma, tua'r flwyddyn 3 CC efallai, y ganed Iesu o Nasareth.

O ddiwedd y 4g OC ymlaen, ymadawodd nifer o Iddewon. Daeth yn ganolfan pererindod i Gristnogion ac i'r Mwslemiaid hefyd, yn dilyn ei choncwest gan yr Arabiaid yn 636 OC. Cipiwyd rhannau sylweddol o Balesteina gan y Croesgadwyr a bu yn eu meddiant o 1099 hyd ganol y 13g. Ar ôl cyfnod dan reolaeth yr Aifft, cipiwyd yr ardal gan Ymerodraeth yr Otomaniaid yn 1516 ac fe'i rheolwyd ganddynt hyd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yr 20g - Cyfnod Mandad Prydain[golygu | golygu cod]

Ar ddiwedd cyfnod rheolaeth yr Otomaniaid agorwyd Palesteina i ddylanwadau newydd o'r Gorllewin. Dechreuodd Iddewon a fu ar wasgar ymsefydlu yno o ganol y 19g ymlaen. Gyda hyn, datblygodd Seionaeth gyda'r nod o sefydlu gwladwriaeth Iddewig ym Mhalesteina. Arwydd o hyn oedd sefydlu Tel Aviv fel dinas Iddewig newydd yn 1909. Yn ôl rhai awdurdodau roedd tua 100,000 o Iddewon ym Mhalesteina erbyn y 1900au, ond hanerwyd eu nifer yn ystod y Rhyfel Mawr. Yn 1918 cipiwyd Palesteina gan Brydain. Cadarnheuwyd rheolaeth Prydain gan Fandad Cynghrair y Cenhedloedd yn 1922. Gyda Datganiad Balfour yn 1917, roedd Prydain eisoes wedi mynegi ei chefnogaeth i sefydlu gwladwriaeth Iddewig, ond arweiniodd hyn at wrthdaro rhwng yr ymsefydlwyr Iddewig a'r Palesteiniaid brodorol wrth i'r Seionwyr gipio eu tir. David Lloyd George fu'n bennaf gyfrifol am hynny yn ei amser fel Gweinidog Rhyfel a Phrif Weinidog y DU. Saethwyd dros 5,000 o Balesteiniaid gan filwyr Prydeinig rhwng 1936 ac 1939. Cafwyd sawl ymosodiad terfysgol a chyflafanau gan grwpiau Seionaidd terfysgol fel y Gang Stern. Dylifodd nifer o ymsefydlwyr Iddewig o Ewrop i'r ardal a gwaethygodd y sefyllfa. Yn 1947 penderfynodd y Cenhedloedd Unedig rannu Palesteina yn ddwy wladwriaeth, un i'r Iddewon a'r llall i'r Palesteiniaid, yn unol â 'Penderfynaid Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig 181' (UN General Assembly Resolution 181). Ond gwrthodwyd hyn gan y Palesteiniaid am y byddai'n golygu colli llawer o'r tiroedd gorau. Rhoddodd Prydain ei mandad heibio yn 1948 a chafwyd rhyfel gan yr Israeliaid ar y Palesteiniaid. Trawsfeddianwyd eu tiroedd a gorfodwyd miloedd lawer ohonynt i ffoi am eu bywydau: cyfeirir at hyn gan y Palesteiniaid fel Al Nakba ("Y Catastroffi").

Sefydlwyd gwladwriaeth Israel yn 1948.

Mae'r linell-amser hon yn dangos pa wlad a oedd yn hawlio pwerau sofren dros Balesteina. Prif erthygl: Palesteina.

Paleseina dan FandadGwlad IorddonenRashidun CaliphateRhufeiniaidYr Ymerodraeth RufeinigYmerodraeth yr OtomaniaidYmerodraeth yr OtomaniaidBysantaiddBysantaiddYr Ymerodraeth FysantaiddAntigonidSeljuk:SeljukiaidSassaniaidYmerodraeth AchaemenidAbassiaidAbassiaidYmerodraeth Newydd AssyriaY Rhyfel AthreuliolMuhammad Ali o'r AifftMamlukAyyubidiaidFatimidiaidFatimidiaidIkhshididiaidTulunidiaidPtolemiaidPtolemiaidPtolemiaidTrydydd CyfnodY Deyrnas NewyddAyyubidiaidArtuqidiaidUmayyad CaliphateYmerodraeth PalmyreneYmerodraeth SeleucaiddAram DamascusIsraelCrusaderHasmoniaidFfilistiaidCanaan


Y diaspora Palesteinaidd[golygu | golygu cod]

Palesteiniaid yn ffoi o Balesteina yn 1948

Ar ôl sefydlu Israel ac ers hynny hefyd, mae nifer fawr o Balesteiniaid wedi gorfod ffoi eu mamwlad. Mae llawer o'r rhain yn byw mewn gwersi ffoaduriaid yn y gwledydd cyfagos. Ffoaduriaid o'r tir a feddianwyd i greu Israel yw trwch poblogaeth Llain Gaza a chanran uchel o drigolion Y Lan Orllewinol hefyd. Yn ogystal mae dros filiwn o Balesteiniaid yn byw yn Israel o hyd ond mae llywodraeth Israel yn cyfeirio atynt fel 'Arabiaid Israelaidd': mae ganddynt lai o hawliau sifil na'r Iddewon Israelaidd a safon byw sy'n is yn gyffredinol. Yng ngweddill y Dwyrain Canol, ceir y nifer uchaf o Balesteiniaid ar wasgar yng Ngwlad Iorddonen, Syria a Libanus lle maent yn byw gan amlaf mewn gwersi ffoaduriaid dan ofal UNRWA. Mae dros 800,000 yn byw yn yr Amerig, yn bennaf yn UDA a Tsile.

Gweler hefyd: Al Nakba

Plant Palesteinaidd[golygu | golygu cod]

Yn ystod ymosodiad 2008 Israel ar y Palesteiniaid yn Llain Gaza credir fod oddeutu bron i 400 o blant. Yn ôl grŵp o Aelodau Seneddol a ymwelodd â Llain Gaza yn 2009 (sef Britain-Palestine All Party Parliamentary Group) mae oddeutu 6,500 o blant wedi'u carcharu yn Israel. Ym Mehefin 2012 croesawodd Richard Burden AS (sef cadeirydd y grŵp) Adroddiad a gomisiynwyd gan y Swyddfa Dramor a ddaeth i'r canlyniad fod Awdurdodau Israel yn fwriadol dorri Pedwerydd Confensiwn Genefa dros Hawliau'r Plentyn.[5]

Rhwng 2000 a 2009 cafodd 6,700 o blant dan 18 oed eu harestio gan Awdurdodau Israel, yn ôl Amddiffyn Plant Rhyngwladol (Defence for Children International). Roedd 423 ohonynt mewn carchardai yn 2009; erbyn 280 roedd y ffigwr i lawr i 280. Dywedodd llefarydd ar eu rhan fod hyn yn gwbwl groes i Ddeddfau Rhyngwladol.[6] Nid yw'n anghyffredin i'r plant gael eu dal mewn carchar am 6 mis heb weld eu teulu a'u bod yn cael eu poenydio.

Rhanbarthau a dinasoedd[golygu | golygu cod]

Dyma restr o is-adrannau gweinyddol, a elwir yn 'Llywodraethiaethau Palesteina' (Governorates of Palestine):

Rhanbarth Arwynebedd (km2)[7] Poblogaeth Dwysedd (y km2) Prifddinas y Rhanbarth
Llywodraethiaeth Jenin 583 311,231 533.8 Jenin
Llywodraethiaeth Tubas 402 64,719 161.0 Tubas
Llywodraethiaeth Tulkarm 246 182,053 740.0 Tulkarm
Llywodraethiaeth Nablus 605 380,961 629.7 Nablus
Llywodraethiaeth Qalqilya 166 110,800 667.5 Qalqilya
Llywodraethiaeth Salfit 204 70,727 346.7 Salfit
Llywodraethiaeth Ramallah ac Al-Bireh 855 348,110 407.1 Ramallah
Llywodraethiaeth Jericho 593 52,154 87.9 Jericho
Llywodraethiaeth Jeriwsalem 345 419,108a 1214.8 Jeriwsalem
Llywodraethiaeth Bethlehem 659 216,114 927.9 Bethlehem
Llywodraethiaeth Hebron 997 706,508 708.6 Hebron
Llywodraethiaeth Gogledd Gaza 61 362,772 5947.1 Jabaliya
Llywodraethiaeth Gaza 74 625,824 8457.1 Dinas Gaza
Llywodraethiaeth Deir al-Balah 58 264,455 4559.6 Deir al-Balah
Llywodraethiaeth Khan Yunis 108 341,393 3161.0 Khan Yunis
Llywodraethiaeth Rafah 64 225,538 3524.0 Rafah

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mae'r map gwreiddiol i'w gael yma
  2. [1][dolen marw]
  3. Beaumont, Peter (3 Hydref 2014). "Sweden to recognise state of Palestine". The Guardian. London. Cyrchwyd 14 Hydref 2014.
  4. "MPs back Palestinian statehood alongside Israel". BBC News. BBC. 14 Hydref 2014. Cyrchwyd 14 Hydref 2014.
  5. [2] Archifwyd 2013-01-03 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Richard Burdon AS); adalwyd 06/12/2012
  6. "Palestinian Prisoners Day 2009: Highest number of children currently in detention since 2000". 18 April 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-04. Cyrchwyd 2012-12-06. Text "Amddiffyn Plant Rhyngwladol: Adran Palesteina" ignored (help)
  7. "Palestine". GeoHive. Johan van der Heyden. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 3 OHydref 2015. Check date values in: |access-date= (help)