Assyria

Oddi ar Wicipedia
Assyria
Enghraifft o'r canlynolgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
Daeth i ben609 CC Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2025 (yn y Calendr Iwliaidd) CC Edit this on Wikidata
Map
RhagflaenyddQ2647882 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ymerodraeth Newydd Assyria (gwyrdd).

Ardal o amgylch rhan uchaf Afon Tigris yn yr hyn sydd heddiw yn Irac oedd Assyria (Acadeg: Aššur). Defnyddir yr enw hefyd am y wladwriaeth a sefydlwyd yn yr ardal yma, a dyfodd yn ymerodraeth. Daw'r enw o enw'r brifddinas wreiddiol, Assur.

Yn ystod y cyfnod cynnar, o'r 20g CC hyd y 15g CC, roedd Assyria yn rheoli'r rhan fwyaf o ran uchaf Mesopotamia. O'r cyfnod yma hyd y 10g CC, lleihaodd ei grym, cyn iddi ennill grym eto trwy orchfygu ei chymdogion. Ymestynnodd ei dylanwad ymhellach dan Ymerodraeth Newydd Assyria, 911 CC hyd 612 CC. Dan ei brenin Ashurbanipal, a deyrnasodd o 668 CC hyd 627 CC, roedd yr ymerodraeth yn ymestyn cyn belled a'r Aifft. Yn ddiweddarach, collwyd yr ymerodraeth yn dilyn goresgyniadau Babilon a Persia.

Heblaw Assur, roedd ei dinasoedd pwysig yn cynnwys Kalhu (Nimrud) a Ninefeh.