Afon Tigris

Oddi ar Wicipedia
Afon Tigris
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladIrac, Syria, Twrci Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38.5032°N 39.5058°E, 31.0043°N 47.4421°E Edit this on Wikidata
TarddiadLlyn Hazar Edit this on Wikidata
AberShatt al-Arab Edit this on Wikidata
LlednentyddLittle Zab, Great Zab, Afon Botan, Khabur, 'Adhaim, Q21209945, Q21210285, Q21210929, Afon Batman, Afon Diyala, Afon Karkheh, Gevi River, Afon Khasa, Afon Khosr, Zab, Afon Sirwan, Q21695712, Q21199148, Q21695258, Q21210039, Q16371554, Godar Khosh River, Doiraj River Edit this on Wikidata
Dalgylch375,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd1,850 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad1,014 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddLlyn Hazar Edit this on Wikidata
Map

Afon fawr yn ne-orllewin Asia yw Afon Tigris (Arabeg: Dijah). Mae'n codi o lyn ym mynyddoedd Kurdistan yn ne-ddwyrain Twrci ac yn llifo i'r de-ddwyrain trwy ddinas Diyarbakir, ac yna ar hyd y ffîn rhwng Twrci a Syria ac wedyn i Irac. Ger Basra, tua 190 km i'r gogledd o Gwlff Persia mae'n ymuno ag Afon Ewffrates, ar ôl llifo ar gwrs cyfochrog i'r dwyrain o'r afon honno, i ffurfio'r cwrs dŵr a enwir Shatt al-Arab. Ei hyd yw 1900 km (1180 milltir).

Yn y diriogaeth a elwir Irac heddiw roedd afonydd Tigris ac Ewffrates yn ffurfio 'Y wlad rwng y Ddwy Afon', sef Mesopotamia, lle blodeuai rhai o wareiddiaid pwysicaf yr Henfyd, gan gynnwys Assyria, Acad, Swmer a Babilonia.

Credir mai Afon Tigris yw Afon Hidecel y cyfeirir ati yn Llyfr Genesis; un o Bedair Afon Paradwys yn y traddodiad Beiblaidd.

Trefi a dinasoedd ar lan yr afon[golygu | golygu cod]

Afon Tigris ger Diyarbakir
Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato