Arabiaid

Oddi ar Wicipedia
Arabiaid
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
MathSemitiaid, peoples of the Quran Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebAjam Edit this on Wikidata
Label brodorolعرب Edit this on Wikidata
CrefyddIslam, cristnogaeth edit this on wikidata
Rhan oSemitiaid Edit this on Wikidata
Enw brodorolعرب Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r Arabiaid yn bobl Semitaidd a breswyliai orynys Arabia yn wreiddiol. Gellir eu rhannu'n fras yn ddau grŵp diwylliannol, sef y llwythi Bedouin nomadaidd a'r cymunedau dinesig ac amaethyddol.

Roedd yr Arabiaid yn adanbyddus i'r Groegiaid, y Rhufeiniaid a'r Iddewon yn yr Henfyd. Cyfeirir atynt gan hanesyddion clasurol ac fe'i henwir yn yr Hen Destament yn y Beibl.

Yn y 7g, wedi'u hysbarduno a'u hysbrydoli gan neges y Proffwyd Mohamed a dan bwysau economaidd a chymdeithasol yn ogystal, ymledodd yr Arabiaid dros ran sylweddol o'r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica. Wrth wneud hynny cludiasant efo nhw cred Islam a'r iaith Arabeg mor bell â'r Maghreb ac Andalucía yn y gorllewin ac Indonesia yn y dwyrain.

Er bod y gair "Arabiaid" yn golygu trigolion Arabia a'u disgynyddion uniongyrchol yn wreiddiol, heddiw mae'n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at drigolion iaith Arabeg de-orllewin Asia, yr Aifft, Gogledd Affrica a rhannau o'r Affrica is-Saharaidd, yn ogystal â phobl Arabaidd sy'n byw tramor.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]