Negev

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dyffryn yn y Negev

Ardal o anialwch yn ne Israel yw'r Negev (Hebraeg: נֶגֶב‎, ynganiad Tiberiaidd: Néḡeḇ). Mae'r Bedouin brodorol yn ei alw yn al-Naqab (Arabeg: النقب‎). Tardda'r gair Negev o wraidd Hebraeg sy'n golygu 'sych'. Yn y Beibl mae'r gair Negev yn golygu cyfeiriad 'y De'.

Mae'r Negev yn gorchuddio mwy na hanner tiriogaeth Israel, dros 13,000 km² (4,700 milltir sgwar) neu 55% o'r wlad. Mae'n ffurfio triongl a'i ymyl orllewinol yn cyffwrdd ag anialwch gorynys Sinai a'i ymyl ddwyreiniol yn cael ei dynodi gan ddyffryn Arabah a'r Môr Marw. Mae'n anialwch creigiog gyda sawl dyffryn sych (wadi) yn rhedeg trwyddo. Mae'r rhan ogleddol yn cael mwy o law ac yn gymharol ffrwythlon tra bo'r de'n sych iawn.

Mae'r Negev yn gartref i tua 379,000 Iddew a thua 175,000 Bedouin. Mae tua 80,000 o'r Bedouin yn byw mewn pentrefi (dim ond canran isel iawn sy'n lled-nomadig erbyn heddiw) sydd ddim yn cael eu cydnabod gan yr awdurdodau Israelaidd ac sydd dan fygythiad o gael eu dymchwel dan y gyfraith. Mae rhai wedi galw hyn yn bolisi o "lanhau ethnig" yn y Negev.[1][2]

Canolfan weinyddol a dinas fwyaf yr ardal yw Beersheba (pob. 185,000), yn y gogledd. Yn y de ceir Gwlff Aqaba a dinas gwyliau Eilat. Mae trefi eraill yn cynnwys Dimona, Arad, Mitzpe Ramon, Sderot, a sawl treflan Bedouin, yn cynnwys Rahat a Tel as-Sabi. Ceir yn ogystal sawl cibwts, yn cynnwys Sde Boker lle ymddeolodd David Ben-Gurion, prif weinidog cyntaf Israel.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) ‘Ethnic cleansing’ claim over Israel’s plan to relocate Negev Bedouins. Euronews (15 Gorffennaf 2013). Adalwyd ar 3 Awst 2014.
  2. (Saesneg) White, Ben (22 Hydref 2012). Israel: Ethnic cleansing in the Negev. Al Jazeera. Adalwyd ar 3 Awst 2014.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: