Y Gwanwyn Arabaidd

Oddi ar Wicipedia
Y Gwanwyn Arabaidd
Enghraifft o'r canlynolprotest, gwrthryfel, rhyfel cartref, chwyldro Edit this on Wikidata
Dyddiad17 Rhagfyr 2010 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd18 Rhagfyr 2010 Edit this on Wikidata
Daeth i benRhagfyr 2012 Edit this on Wikidata
LleoliadY Byd Arabaidd Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscivil uprising phase of the Syrian Civil War, Chwyldro'r Aifft, Chwyldro Libia, Chwyldro Iemen, 2013 Libyan coup d'état attempt, Chwyldro Tiwnisia, 2010–2012 Algerian protests, 2011–2012 Jordanian protests, Gdeim Izik protest camp, 2011 Omani protests Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfres o brotestiadau a gwrthryfeloedd mewn llawer o wledydd y Byd Arabaidd a thu hwnt yw Y Gwanwyn Arabaidd (neu Protestiadau'r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, 2010–2011). Taniwyd y wreichionen gyntaf yn Tiwnisia pan losgodd dyn ifanc ei hun i farwolaeth ar 17 Rhagfyr 2010 yn ninas Sidi Bouzid yng nghanolbarth Tiwnisia. Dilynwyd hyn gan gyfres o brotestiadau gan y werin a alwyd yn Chwyldro Jasmin neu Intifada Tiwnisia.

      Chwyldro       Rhyfel cartref       Newidiadau yn y llywodraeth a phrotestiadau eithafol am gyfnod hir       Peth newidiadau yn y llywodraeth a phrotestiadau       Protestiadau tanbaid       Protestiadau heddychlon
      Protestiadau tebyg y tu allan i'r gwledydd Arabaidd


Ymledodd y protestiadau hyn ar hyd a lled y gwledydd Arabaidd: yr Aifft, Algeria, Bahrein, Jibwti, Gorllewin Sahara, Gwlad Iorddonen, Iran, Ciwait, Libia, Moroco, Tiwnisia a Iemen gyda phrotestiadau llai yn Irac, Mawritania, Oman, Sawdi Arabia, Senegal, Somalia, Swdan a Syria. Mae'r protestiadau wedi cynnwys gorymdeithiau, ralïau a streiciau ac mae'r protestwyr wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter yn aml.

Y sefyllfa yn nechrau Chwefror 2011.      Addewid o newid llywodraeth      Chwyldro yn ei anterth      Protestiadau mawr      Protestiadau bach      Gwledydd eraill

Protestiadau cynnar[golygu | golygu cod]

Dechreuodd protestiadau yn Tiwnisia yn Rhagfyr 2010 yn arwain i ddymchweliad yr arlywydd Zine el-Abidine Ben Ali ar 14 Ionawr 2011. Ymddiswyddodd Hosni Mubarak, arlywydd yr Aifft, ar 11 Chwefror 2011 ar ôl 18 dydd o brotestiadau yn y wlad honno.

Tua canol Chwefror cyhoeddodd Brenin Abdullah o Wlad Iorddonen enw prif weinidog newydd a chyhoeddodd Llywydd Iemen, Ali Abdullah Saleh, na fyddai'n dymuno tymor arall yn ei swydd yn 2013. Gwelwyd protestiadau drwy Libia lle galwyd am ymddiswyddiad y Llywydd Muammar al-Gaddafi. Cyhoeddodd Llywydd Swdan, Omar al-Bashir, na fyddai'n rhoi ei enw ymlaen yn yr etholiad nesaf yn 2015.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]