Zine el-Abidine Ben Ali

Oddi ar Wicipedia
Zine el-Abidine Ben Ali
Ganwyd3 Medi 1936 Edit this on Wikidata
Hammam Sousse Edit this on Wikidata
Bu farw19 Medi 2019 Edit this on Wikidata
Jeddah Edit this on Wikidata
Man preswylJeddah, Tiwnisia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSawdi Arabia, French protectorate of Tunisia, Tiwnisia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • École spéciale militaire de Saint-Cyr Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Tiwnisia, cadeirydd y Sefydliad Undod Affricanaidd, Prif Weinidog Tiwnisia, Minister of Interior Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolSocialist Destourian Party, Constitutional Democratic Rally, Annibynnwr Edit this on Wikidata
PriodLeïla Ben Ali, Naïma Ben Ali Edit this on Wikidata
PerthnasauSlim Chiboub Edit this on Wikidata
Gwobr/auColer Urdd Isabella y Catholig, Collar of the Order of the Star of Romania, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Uwch groes Urdd Infante Dom Henri, Grand Cross of the Order of Good Hope, National Maltese Order of Merit, Uwch Groes Urdd Sant-Siarl Edit this on Wikidata

Zine el-Abidine Ben Ali (Arabeg: زين العابدين بن علي), (ganed 3 Medi, 1936, yn Hammam Sousse; m. 19 Medi 2019 yn Jeddah, Sawdi Arabia), oedd arlywydd Tiwnisia o 7 Tachwedd, 1987 hyd 14 Ionawr 2011. Bu'n arweinydd yr Rassemblement Constitutionnel Démocratique (RCD) hefyd. Mae'n briod â Leila Trabelsi.

Yn frodor o Hammam Sousse, ger Sousse lle gweithiai ei dad yn y porth, cafodd ei fagu mewn ardal dosbarth gweithiol yn y dref honno. Cymerodd ran yn y gwrthryfel yn erbyn y Ffrancod yn 1956 ond heb fod yn un o'r arweinwyr amlycaf. Yn y chwedegau cynnar aeth i'r Unol Daleithiau i dderbyn hyfforddiant milwrol. Cafodd sawl swydd ym myddin Tiwnisia a'r gwasanaethau diogelwch cyn dod yn weinidog yn Swyddfa Cartref y wlad, yn llywodraeth y prif weinidog Rachid Sfar, ac yna daeth yn brif weinidog ei hun. Ben Ali oedd yn gyfrifol am orfodi Habib Bourguiba, Arlywydd cyntaf Tiwnisia ac arwr y rhyfel dros annibyniaeth, i "ymddeol am resymau meddygol." Coup menyg melfed oedd hyn ym marn rhai.

Y tu allan i'r wlad a rhai cylchoedd diplomyddol (e.e. UDA) y farn gyffredinol oedd bod Ben Ali yn unben,[1] gan fod y régime Tiwnisiaidd yn unbleidiol i bob pwrpas[2] sy'n cyfyngu rhyddid barn.[3]

Dymchwel Ben Ali[golygu | golygu cod]

Yn Rhagfyr 2010 dechreuodd gyfres brotestiadau poblogaidd yn erbyn Ben Ali a'i lywodraeth a elwir gan ei wrthwynebwyr yn "intifada Tiwnisia. Collodd ugeiniau o bobl eu bywydau ar ôl cael ei saethu gan yr heddlu. Ar 14 Ionawr, gyda'r wlad mewn argyfwng ac anhrefn, daeth rheolaeth Ben Ali i ben mewn coup palas gyda chefnogaeth y Fyddin. Ar ddiwedd y pnawn ymddangosodd y prif weinidog Mohamed Ghannouchi ar TV7. Cyhoeddodd "nad oedd Ben Ali yn alluog i gyflawni ei ddyletswyddau fel arlywydd" a dywedodd ei fod yn cymryd drosodd yn ei le hyd nes y byddai'n bosibl i gynnal etholiad. Yn nes ymlaen adroddwyd fod Ben Ali, aelodau o'i deulu estynedig ac eraill, wedi gadael y wlad. Cafodd ei droi yn ôl o Baris ar ôl i Nicolas Sarkozy wrthod ei dderbyn a hedfanodd oddi yno i Cagliari lle cafodd yr awyren danwydd[4] i Jeddah yn Sawdi Arabia lle cafodd aros mewn un o balasau'r teulu brenhinol; beirniadwyd awdurdodau Saudi yn hallt am eu penderfyniad.[5] Deuddydd yn ddiweddarach, adroddwyd bod ei wraig Leila Ben Ali wedi cymryd 1.5 tonne o aur gyda hi pan adawodd Tiwnisia.[6]

Camrau yn erbyn Ben Ali a'i deulu estynedig[golygu | golygu cod]

Ar ôl ei gwymp ganol mis Ionawr 2011, cafwyd yr ymgais cyntaf i adennill y cyfoeth a "ysbeilwyd" o Tiwnisia gan Ben Ali a'i deulu estynedig. Ar 17 Ionawr, ffeiliodd y cyfreithiwr Swisaidd Ridha Ajmi gais cyfreithiol i rewi pob ased o eiddo Ben Ali yn y Swistir, a dywedodd hefyd ei fod yn ceisio warantau arestio rhyngwladol yn erbyn y cyn-arlywydd, ei wraig Leila a'r cyn weinidog materion mewnol am "orchymyn yr heddlu i saethu ar brotestwyr".[7]

Ar 26 Ionawr dywedodd Lazhar Karoui Chebbi, Gweinidog Cyfiawnder Tiwnisia, fod Tiwnisia wedi cyhoeddi warant arest rhyngwladol, a'i roi i Interpol, yn galw am arestio Ben Ali, ei wraig Leïla ac aelodau eraill o'i deulu estynedig "am gael gafael ar eiddo cyhoeddus yn anghyfreithlon" ac "am drosglwyddo arian dramor yn anghyfreithlon". Cyhoeddwyd warant arall i arestio chwech aelod o'r cyn warchodlu arlywyddol, yn cynnwys ei phennaeth Ali Seriati, "am gynllwyno yn erbyn diogelwch y Wladwriaeth ac am annog trais arfog".[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Philippe Séguin a'i ffrind Ben Ali. Erthygl Ffrangeg (www.humanite.presse.fr)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-12-13. Cyrchwyd 2007-03-21.
  2. Erthygl Ffrangeg ar gyfansoddiad Tunisia (www.alternatives-citoyennes.sgdg.org)
  3. "Diffyg rhyddid barn (Ffrangeg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-30. Cyrchwyd 2007-03-21.
  4. Corriere, 14 Ionawr 2011.
  5. "Ben Ali gets refuge in Saudi Arabia", Al Jazeera.
  6. "Tunisie : le palais présidentiel de Carthage pris d'assaut par l'armée", Jeune Afrique, 16 Ionawr 2011.
  7. "Tunisia appoints national unity government amid turmoil" Archifwyd 2012-10-23 yn y Peiriant Wayback., Channel News Asia.
  8. "Tunis lance un mandat d'arrêt international contre Ben Ali et ses proches", France 24, 26 Ionawr 2011.
Rhagflaenydd:
Habib Bourguiba
Arlywydd Tiwnisia
7 Tachwedd 1987
Olynydd:
''