Hammam Sousse
Oddi ar Wicipedia
Tref ganolog ei maint yng nghanolbarth Tunisia yw Hammam Sousse (Arabeg حمّام سوسة "Baddon Sousse"). Gorwedd ger lan Gwlff Hammamet tua 7 km i'r gogledd o ddinas Sousse. Mae ganddi boblogaeth o 34,685 (2004). Erbyn heddiw mae'n cyfrif fel un o faesdrefi Sousse.
Mae gan y dref orsaf ar reilffordd Tunis-Sfax. Rhed y briffordd GP1 trwy'r dref gan ei chysylltu â'r brifddinas Tunis i'r gogledd.
[golygu] Enwogion
- Zine el-Abidine Ben Ali, Arlywydd presennol Tunisia (ganwyd yn y dref ar 3 Medi, 1936).

