Jeune Afrique
Oddi ar Wicipedia
Newyddiadur wythnosol Ffrangeg ar gyfer Affrica gyfan yw Jeune Afrique, a gyhoeddir ym Mharis, Ffrainc. Mae'r cylchgrawn yn cynnig adroddiadau newyddion ac erthyglau cynhwysfawr ar bynciau Affricanaidd a rhyngwladol ynghyd ag erthyglau amrywiol ar broblemau gwleidyddol ac economaidd y cyfandir.
Fe'i sefydlwyd yn 1960 ac mae wedi tyfu i fod y cylchgrawn mwyaf o'i fath, yn ôl ei gylchrediad a nifer ei ddarllenwyr, a ystyrir yn gyffredinol fel prif gyhoeddiad wythnosol Affrica gyfan o ran ei safon a'i ddylanwad.
Dolen allanol [golygu]
- Gwefan Jeune Afrique (Ffrangeg)