Leïla Ben Ali

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Leïla Ben Ali

Leïla Ben Ali (Arabeg: ليلى بن علي) (née Leïla Trabelsi, 20 Gorffennaf 1957), yw ail wraig Zine el-Abidine Ben Ali, cyn arlywydd Tunisia, ac felly bu'n Brif Foneddiges Tunisia er ei phriodas yn 1992 hyd cwymp Ben Ali ar 14 Ionawr 2011. I'w gwrthwynebwyr roedd hi'n cael ei hadnabod yn gyffredin fel "Brenhines Carthage" ("la régente de Carthage") am ei bod mor gyfoethog a phwerus ac yn ymddwyn fel aelod o deulu brenhinol.[1]

Gyrfa[golygu]

Cafodd ei geni mewn ardal ddifreintiedig o Tunis, yng nghanol y medina. Yn ôl ei bywgraffiad swyddogol yn nyddiau rheolaeth Ben Ali, dilynodd yrfa fel coiffeuse mewn un o salons gwallt Tunis cyn priodi Ben Ali, ond yn ôl eraill "putain oedd hi"; yn sicr dyna oedd y gred gyffredin gan y cyhoedd yn Tunisia.[1]

Cyhuddiadau[golygu]

Yn ôl yr ymchwilydd Ffrengig Christine Messiant, roedd priodas Leïla Ben Ali â'r cyn-arlywydd wedi caniatau i aelodau o'i theulu estynedig elwa ar ei sefyllfa trwy gael manteision economaidd.[2] Roedd hi'n cael ei chyhuddo gan wrthwynebwyr llywodraeth Ben Ali o fod yn euog o neiedd (nepotism) trwy adael i'w pherthnasau agos gael safleoedd clo yn yr economi a'r byd gwleidyddol. Felly bu gan ei frawd Belhassen Trabelsi sedd ar gyngor canolog yr hen blaid lywodraethol, y Rassemblement Constitutionnel Démocratique. Roedd ei chyfaill Alya Abdallah yn bennaeth Banc Tunisia ac roedd Belhassen Trabelsi yn aelod o gorff llywodraethol y banc hwnnw hefyd.[3]. Roedd ei chyfnither Najet Trabelsi yn gyfarwyddwraig Ysbyty Kheireddine Tunis. Fel Wassila Bourguiba, gwraig Habib Bourguiba, roedd gwraig Ben Ali yn chwarae rhan flaenllaw ar y llwyfan wleidyddol yn Tunisia.

Mewn un o'r dogfennau Cablegate a gyhoeddwyd gan WikiLeaks, disgrifwyd llygredd fel "cancer that is spreading spurred on by the corrupt practices of President Ben Ali and his extended family", yn cynnwys ei wraig, gyda chebl arall yn dweud fod y broblem ar ei gwaethaf yn rhengoedd uchaf y llywodraeth.[4]

Ar 16 Ionawr 2001, ddeuddydd ar ôl cwymp llywodraeth Ben Ali, adroddwyd bod Leila Ben Ali wedi cymryd 1.5 tonne o aur gyda hi pan adawodd Tunisia.[5]

Camrau cyfreithiol[golygu]

Ar ôl ei gwymp ganol mis Ionawr 2011, cafwyd yr ymgais cyntaf i adennill y cyfoeth a "ysbeilwyd" o Tunisia gan Ben Ali a'i deulu estynedig, yn cynnwys ei wraig. Ar 17 Ionawr, ffeiliodd y cyfreithiwr Swisaidd Ridha Ajmi gais cyfreithiol i rewi pob ased o eiddo Ben Ali yn y Swistir, a dywedodd hefyd ei fod yn ceisio warantau arestio rhyngwladol yn erbyn y cyn-arlywydd, ei wraig Leila a'r cyn weinidog materion mewnol am "orchymyn yr heddlu i saethu ar brotestwyr".[6]

Ar 26 Ionawr dywedodd Lazhar Karoui Chebbi, Gweinidog Cyfiawnder Tunisia, fod Tunisia wedi cyhoeddi warant arest rhyngwladol, a'i roi i Interpol, yn galw am arestio Ben Ali, ei wraig Leïla ac aelodau eraill o'i deulu estynedig "am gael gafael ar eiddo cyhoeddus yn anghyfreithlon" ac "am drosglwyddo arian dramor yn anghyfreithlon". Cyhoeddwyd warant arall i arestio chwech aelod o'r cyn warchodlu arlywyddol, yn cynnwys ei phennaeth Ali Seriati, "am gynllwyno yn erbyn diogelwch y Wladwriaeth ac am annog trais arfog".[7]

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]