Hosni Mubarak
Pedwerydd Arlywydd yr Aifft yw Muhammad Hosni Sayyid Mubarak (ganwyd 4 Mai 1928), sydd wedi bod yn ei swydd ers Hydref 1981. Fe'i gwnaed yn Is-Lywydd yn 1975 ac yna'n Llywydd ar y 14 Hydref 1981 yn dilyn saethu Anwar El-Sadat.
Mae ganddo ddau fab o'r enw Gamal Mubarak ac Alaa Mubarak.
Hanner Cymraes o Bontypridd yw Suzanne Mubarak ei wraig. Enw ei mham, a oedd yn nyrs o Gaerdydd, oedd Lily May Palmer.[1] Roedd tad Lily May yn Reolwr mewn gwaith glo ym Mhontypridd.[2]
Chwyldro 2011[golygu]
Ar 11 Chwefror cyhoeddodd Dirprwy arlywydd yr Aifft, Omar Suleiman, ymddiswyddiad Mubarak fel arlywydd. Cyhoeddodd hefyd fod grym y wlad bellach yn nwylo'r Llu Arfog. Ar 13 Ebrill cyhoeddwyd fod Mubarak wedi'i arestio am 15 diwrnod a bod ei ddau fab wedi eu carcharu ynghyd a nifer eraill o gyn-arweinwyr y wlad.
Erbyn Ebrill 2011 mae'n cael ei adnabod ar Al Jazeera fel "Y Ffaro Olaf".