Chwyldro

Oddi ar Wicipedia
Chwyldro
Paentiad gan Delecroix yn coffáu chwyldro 1830 Ffrainc
Mathnewid cymdeithasol, newid cyfundrefn, gwrthdaro Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebcounter-revolution Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Newid elfennol a sydyn i drefn gymdeithas yw chwyldro. Defnyddir gan amlaf i ddisgrifio newid gwleidyddol, er enghraifft y Chwyldro Ffrengig, ond hefyd newid ym meysydd eraill cymdeithas, megis y Chwyldro Diwydiannol neu Chwyldro Diwylliannol Tsieina.

Anogwyr[golygu | golygu cod]

Mae nifer o athrawiaethau a grwpiau gwleidyddol yn cefnogi'r syniad o chwyldro gwleidyddol er mwyn cyrraedd eu hamcanion. Yr adain chwith eithafol; sosialwyr, Marcswyr ac Anarchwyr a adnabyddir am ei dueddiadau chwyldroadol. Gwreiddiau'r termau "adain chwith" ac "adain dde" oedd mannau eistedd y Cynulliad Cenedlaethol yn y Chwyldro Ffrengig, lle eisteddodd cefnogwyr y chwyldro ar ochr chwith yr Arlywydd a chefnogwyr y Brenin i'w dde.[1] Ond mae rhannau o'r adain dde, er enghraifft Mudiad Chwyldroadol Ceidwadol yr Almaen yn y '20au, a mudiadau crefyddol (er enghraifft Chwyldro Iran) hefyd yn gallu cefnogi chwyldro fel dull o newid cymdeithas. Mae chwyldroadwyr o'r fath yn cymharu â diwygwyr, sydd yn cefnogi newid cymdeithas yn raddol ac o du fewn systemau presennol, a cheidwadwyr sydd yn gwrthwynebu newid. Elwir rhywun sydd yn ceisio atal chwyldro yn adweithiwr a gweithred a ganfyddir felly yn "wrth-chwyldroadol".

Diffiniadau[golygu | golygu cod]

Oherwydd natur wleidyddol y term anodd yw ei ddiffinio yn union a gwahaniaethu rhwng newidiadau sydd yn "chwyldroadol" ai beidio. Er enghraifft, weithiau disgrifiwyd coup d'état (cipiad o afwynau llywodraeth gan grŵp penodol) fel chwyldro yn ogystal, megis yn Ciwba yn 1959, ond nid ym mhob achos (er enghraifft coup d'état Chile yn 1973). Gan amlaf, gwelir chwyldro fel gwrthryfel sydd yn llwyddiannus. Eto, weithiau defnyddiwyd y term i ddisgrifio gwrthryfeloedd aflwyddiannus, megis Chwyldro Hwngari.

I Farcswyr, chwyldro yw esgyniad dosbarth economaidd (er enghraifft, y bourgeoisie neu'r proletariat) i bŵer gan arwain at foddau cynhyrchu newydd, nid newid mewn arweinydd yn unig.[2]

Cyferiadau[golygu | golygu cod]