Facebook

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Logo swyddogol Facebook

Gwefan rhwydweithio cymdeithasol yw Facebook, yn debyg i Bebo a MySpace. Yn anffurfiol, defnyddir yr enw Gweplyfr arno yn y Gymraeg.

Cynnwys

[golygu] Hanes

Pan lansiwyd Facebook yn 2004 gan Mark Zuckerberg, roedd aelodaeth wedi ei gyfyngu i fyfyrwyr Prifysgol Harvard, ac yna fe ehangwyd i sawl prifysgol yn yr Unol Daleithiau. Yn raddol ehangwyd aelodaeth i unrhyw un oedd â chyfeiriad e-bost sefydliad addysgol (e.e. .edu, .ac.uk, ayyb) ar draws y byd, nes yn 2006 pan agorwyd y wefan i unrhyw berson.

[golygu] Achos llys

Yn 2007 aed a Mark Zuckerberg i'r llys gan gwmni ConnectU.com gan honni ei fod wedi dwyn eu syniad nhw am y wefan, ac wedi oedi datblygiad eu gwefan nhw'n fwriadol wrth weithio iddynt yn 2003[1]. Nid oes dyfarniad wedi bod i'r achos llys hyd yma.

[golygu] Nodweddion

  • Y mae'n rhaid i chi gofrestru â Facebook cyn i chi gael mynediad i'r wefan.
  • Y gallwch ddewis ymuno â rhwydweithiau a seilir ar leoliad daearyddol (gwladwriaeth, gwlad neu ddinas), sefydliad addysg neu gyflogwr.

[golygu] Ieithoedd Facebook

Tudalen cychwyn Facebook, gyda ffurflen fewngofnodi a chofrestru.

Yn 2008 fel rhan o ddatblygiad Facebook ychwanegwyd rhaglen a rhoddodd y gallu i gyfieithu'r Safle. Mae Facebook bellach ar gael yn yr ieithoedd canlynol:

  • Cymraeg
  • Saesneg
  • Sbaeneg
  • Catalaneg
  • Norwyeg
  • Almaeneg
  • Tsieceg
  • Tsieinëeg
  • Daneg
  • Ffineg
  • Eidaleg
  • Iseldireg
  • Pwyleg
  • Rwsieg
  • Swedeg
  • Tyrceg
  • Portiwgaleg (Brasil)
  • Siapaneg
  • Coreeg

[golygu] Preifatrwydd a diogelwch

Cafwyd sawl cwyn am ddiffyg preifatrwydd ar Facebook. Yn 2010, datgelwyd bod nifer o applications fel gemau ar Facebook yn hel gwybodaeth bersonol a bod rhai yn ei phasio ymlaen i gwmniau eraill. Roedd hyn yn digwydd hyd yn oed ar ôl i'r defnyddwr Facebook ddewis i lefel diogelwch gwybodaeth uchaf. Roedd y wybodaeth a "ffermwyd" felly yn cynnwys enwau go iawn, cyfeiriadau a gwybodaeth bersonol arall. Ym mis Hydref 2010, ar ôl wynebu bygythiad o gael achos llys yn ei erbyn yn yr Unol Daleithiau, mynnodd Facebook ei bod wedi cymryd camrau i atal hynny.[2]

[golygu] Cyfeiriadau

[golygu] Dolenni

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill