Olew

Oddi ar Wicipedia
Olew modur

Hylif na ellir ei gymysgu â dŵr yw olew. Mae pris olew petroliwm yn effeithio ar economi gwledydd y byd.

Ceir gwahanol fathau o olew, gan gynnwys:

Ceir llawer o ddefnyddiau i olew, gan gynnwys:

  • Olew cosmetig i wella ansawdd y croen
  • Olew ar gyfer iro, a roddir i beiriant neu injan er mwyn iddi hi droi yn iawn, heb ffrithiant
  • Paratoi bwyd, er enghraifft olew'r olewyddan (Saesneg: olive oil)
  • Tanwydd ar gyfer cynesu adeiladau neu yrru cerbyd
  • Paent-olew; defnyddir paent olew ers 15g
  • Seremoniau crefyddol (i eneinio'r corff hefyd)

Y Gynghrair Arabaidd yw prif gynhyrchydd olew'r byd, gyda Sawdi Arabia yn ail, a Rwsia'n drydydd.

Cymru[golygu | golygu cod]

Llwyfan olew i'w weld o guddfan y RSPB yn y Parlwr Du; 2013.

Er ymchwilio eitha sylweddol yn y 1990au, yn enwedig ym Mae Ceredigion, ni chanfuwyd cyflenwadau masnachol. Agorwyd y burfa olew cyntaf yng Nghymru yn Llandarcy yn 1919 a hon oedd y fwyaf o'i bath drwy wledydd Prydain. Cludwyd yr olew yno ar loriau, o ddociau Abertawe. Bomiwyd Abertawe'n ddidrugaredd gan yr Almaen er mwyn torri'r cyflenwad olew hwn. Erbyn hyn o ddociau Aberdaugleddau y daw'r cyflenwad o olew crai, yna'i gludo drwy bibell 97 km o hyd i Landarcy.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am olew
yn Wiciadur.