Ffrithiant

Oddi ar Wicipedia

Ffrithiant yw'r grym sy'n ceisio rhwystro arwynebau solid neu hylif rhag llithro yn erbyn ei gilydd. Pan fo dau arwyneb yn symud heibio i'w gilydd, fe drosir peth o egni cinetig i egni gwres. Gall hyn fod yn ddefnyddiol mewn rhai achosion (wrth gynnau matsien) ond yn aml mae'n ddiangen, neu hyd yn oed peryglus. Gall iro man cyffwrdd dau solid gyda hylif (er enghraifft olew) leihau'r ffrithiant yn y system.

Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.