Y Cynghrair Arabaidd
Sefydlwyd y Cynghrair Arabaidd (Arabeg: الجامعة العربية al-Jāmiʻa al-ʻArabiyya), a elwir Cynghrair y Gwladwriaethau Arabaidd (Arabic: جامعة الدول العربية Jāmiʻat ad-Duwal al-ʻArabiyya) yn swyddogol, er mwyn hyrwyddo undod a chydweithrediad rhwng y gwledydd Arabaidd. Fe'i sefydlwyd ar 7 Mawrth, 1945, gan saith o wledydd Arabaidd, sef Yr Aifft, Irac, Gwlad Iorddonen, Libanus, Saudi Arabia, Syria ac Yemen. Ar hyn o bryd ceir 22 aelod. Prif nod y Cyngrair yw creu perthynas agosach rhwng yr aelod-wladwriaethau a threfnu cydweithrediad rhyngddynt, amddiffyn eu hannibyniaeth a'u sofraniaeth, a thrafod mewn modd gyffredinol buddianau'r gwledydd Arabaidd a materion sy'n ymwneud â hwy.
Lleolir ei bencadlys yn ninas Cairo yn yr Aifft. Mae tua 316 miliwn o bobl yn byw yng ngwledydd y Cynghrair, ar diriogaeth sy'n ymestyn o'r Maghreb yn y gorllewin i'r ffin rhwng Irac ac Iran a de-ddwyrain gorynys Arabia yn y dwyrain. Mae'r mwyafrif yn Arabiaid ond ceir lleiafrifoedd fel y Berberiaid hefyd. Mae canran sylweddol o'r boblogaeth yn byw mewn dinasoedd a threfi. Y dinasoedd mwyaf yw Baghdad, Khartoum, Damascus, Riyadh, Alexandria a Casablanca.
Cynnwys |
Aelodau[golygu]
Aelodau presennol y Cynghair yw (ynghyd â'u dyddiad aelodaeth):
| 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd) | |
| 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd) | |
| 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd) | |
| 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd) | |
| 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd) | |
| 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd) | |
| 5 Mai, 1945 (Sefydlydd) | |
| 28 Mawrth, 1953 | |
| 19 Ionawr, 1956 | |
| 1 Hydref, 1958 | |
| 1 Hydref, 1958 | |
| 20 Gorffennaf, 1961 | |
| 16 Awst, 1962 | |
| 12 Mehefin, 1971 | |
| 11 Medi, 1971 | |
| 11 Medi, 1971 | |
| 29 Medi, 1971 | |
| 26 Tachwedd, 1973 | |
| 14 Chwefror, 1974 | |
| Gwladwriaeth Palesteina 15 Tachwedd, 1988, yn olynnu'r PLO (o 9 Medi, 1976) | |
| 9 Ebrill, 1977 | |
| 20 Tachwedd, 1993 |
Yn Ionawr 2003, ymaelododd Eritrea fel sylwedydd.
Ysgrifenyddion Cyffredinol[golygu]
| Abdul Rahman Azzam | 1945 hyd 1952 | |
| Abdul Khalek Hassouna | 1952 hyd 1972 | |
| Mahmoud Riad | 1972 hyd 1979 | |
| Chedli Klibi | 1979 hyd 1990 | |
| Assad al-Assad | 1990 hyd 1991 | |
| Ahmad Esmat Abd al Meguid | 1991 hyd 2001 | |
| Amr Moussa | 2001 hyd heddiw |
Gweler hefyd[golygu]
Dolenni allanol[golygu]
- (Arabeg) (Saesneg) Gwefan swyddogol
|
|
|
|---|---|
| Aelodau | Yr Aifft · Algeria · Bahrain · Y Comoros · Djibouti · Yr Emiradau Arabaidd Unedig · Gwlad Iorddonen · Irac · Kuwait · Libanus · Libya · Mauritania · Moroco · Oman · Palesteina · Qatar · Saudi Arabia · Somalia · Sudan · Syria · Tunisia · Yemen |
| Arsyllwyr | Eritrea · India · Venezuela |