Hama

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tri noria ar Afon Orontes yn Hama
Yr Eglwys Uniongred Rufeinig yn Hama

Dinas hanesyddol yng ngorllewin canolbarth Syria ar lan Afon Orontes yw Hama, i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Homs. Hama yw prifddinas y dalaith o'r un enw (Hama). Ystyr yr enw Arabeg Hama yw "caer".

Mae'r ddinas yn enwog am ei holwynion dŵr hynafol (a elwir noria), rhai ohonyn nhw'n dyddio o gyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig, yn ôl traddodiad.

Hanes[golygu]

Hanes cynnar[golygu]

Sefydlwyd y ddinas gan yr Hitiaid. Am ganrifoedd lawer newidiai dwylo rhwng grymoedd mawr y Dwyrain Canol megis yr Aifft hynafol ac Assyria.

Y cyfnod Clasurol a Byzantaidd[golygu]

Yn sgîl ei chwncwest gan Alecsandr Mawr rhoddwyd iddi'r enw Epiphania, efallai er anrhydedd y brenin Antiochus Epiphanes. Mae'r haneswyr Byzantaidd Aquila a Theodoretus yn ei galw Emath-Epiphania. Yn ddiweddarach daeth y ddinas dan reolaeth yr Ymerodraeth Rufeinig ac wedyn yr Ymerodraeth Fysantaidd, fel rhan o dalaith Syria Secunda.

Yr Oesoedd Canol[golygu]

Cipiwyd Hama oddi wrth y Byzantiaid gan yr Arabiaid yn O.C. 638 neu 639.

Newidiai dwylo fwy nag unwaith yn ystod y Croesgadau. Fe'i cipiwyd gan Tancred yn 1108, ond yn 1115 collodd y Francod eu gafael arni'n derfynol. Yn 1179, ganwyd y daearyddwr Arabaidd Yaqut al-Hamawi (1179-1229) yno. Yn 1188 fe'i meddianwyd gan Saladin ac arosai dan reolaeth ei deulu, yr Ayyubidiaid, nes iddi basio dan reolaeth y Mamlukiaid Eifftaidd yn 1299. Un o lywodraethwyr cynnar Hama dan y Mamlukiaid oedd yr haneswr a daearyddwr Abu al-Fida, o 1310 hyd 1330.

Yr Otomaniaid[golygu]

Ar ddechrau'r 16eg ganrif daeth Hama dan reolaeth Ymerodraeth yr Otomaniaid. Codid nifer o garafanserau (ar gyfer teithwyr) neu khanau, ynghyd â phalas hardd Al-Azem Palace yn y cyfnod hwnnw. Roedd Hamah (Twrceg) yn ddinas o 45,000 o drigolion, ac yn gartref i'r Mutessarif (llywodraethwr), dan awdurdod Damascus. Mwslemiaid oedd y mwyafrif o'r trigolion, ond ceid tua 10,000 o Gristnogion yno yn ogystal, yn perthyn i sawl eglwys ac enwad.

Yr ugeinfed ganrif[golygu]

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf daeth Hama dan mandad Cynghrair y Cenhedloedd Taleithiau Ffrengig y Lefant ac yn 1941 daeth yn rhan o'r Syria annibynnol.

Cyflafan Hama[golygu]

Ar ddechrau'r 1980au roedd nifer o grwpiau Islamaidd yn ceisio cynneu gwrthryfel yn Syria yn erbyn y llywodraeth seciwlar Ba'athaidd. Un o'r grwpiau mwyaf oedd y Frawdoliaeth Fwslemaidd a arweiniodd wrthryfel ym mis Chwefror, 1982. Bu ymgais aflwyddianus i lofruddio'r Arlywydd Assad yn Damascus. Cadarnle'r gwrthryfelwyr oedd Hama, ac er mwyn dial arnyn nhw a'u trechu ymosododd byddin Syria, dan arweiniaeth Rifaat al-Assad, brawd yr arlywydd. Dioddefodd ran helaeth o'r hen ddinas ddifrod sylweddol yn ystod yr ymosodiad; mae Amnesti Rhyngwladol yn amcangyfrif fod tua 10,000 o bobl wedi'u lladd yn yr ymosodiad ond mae llywodraeth y wlad yn gwrthod trafod y digwyddiad, sy'n bwnc tabŵ yn Syria hyd heddiw.

Economi[golygu]

Erbyn heddiw mae'r ddinas yn ganolfan fasnach ranbarthol ac yn farchnad i gynnyrch amaethyddol y rhanbarth. Oherwydd amgylchiadau gwleidyddol y Dwyrain Canol yn ddiweddar nid yw twristiaeth mor bwysig ag y bu ar un adeg ond erys Hama yn gylchfan deniadol i breswylwyr dinasoedd mawr Syria, yn arbennig dinesyddion Damascus ac Aleppo.