Marcus Antonius Primus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Musée des Augustins - Marcus Antonius Primus.jpg

Milwr a gwleidydd Rhufeinig oedd Marcus Antonius Primus (27 Mawrth 30 – wedi 81). Bu ganddo ran allweddol yn nigwyddiadau Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr yn 69.

Ganed ef yn Tolosa, a daeth yn aelod o Senedd Rhufain yn ystod teyrnasiad Nero, ond taflwyd ef o'r senedd a'i alltudio o Rufain yn 61. Dan yr ymerawdwr Galba, daeth yn aelod o'r senedd eto, a phenodwyd ef yn legad Legio VII Galbiana yn Pannonia.

Wedi marwolaeth Otho, perswadiodd ei leng a llengoedd eraill Pannonia i gefnodi Vespasian, oedd yn hawlio'r orsedd. Aeth a byddin i'r Eidal, lle gorchfygodd fyddin yr ymerawdwr Vitellius yn Ail frwydr Bedriacum ar 24 - 25 Hydref. Aeth ymlaen i feddiannu dinas Rhufain.

Am gyfnod, hyd nes i fyddin arall Vespasian dan Gaius Licinius Mucianus gyrraedd, ef oedd yn rheoli Rhufain, a phenododd y senedd ef yn Gonswl.