Maastricht
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn ne-ddwyrain yr Iseldiroedd yw Maastricht (Ynganiad:
Iseldireg ?/i , Limbwrsieg - Mestreech), prifddinas talaith Limburg. Saif ar lannau afon Meuse. Mae'n ganolfan ddiwylliannol sy'n gartref i sawl adeilad hanesyddol yn cynnwys yr eglwys hynaf yn y wlad, a sefydlwyd yn y 6ed ganrif. Mae ei diwydiannau traddodiadol yn cynnwys cynhyrchu crochenwaith a brethyn.
Arwyddwyd Cytundeb Maastricht (ei henw iawn yw Cytundeb yr Undeb Ewropeaidd) yn y ddinas gan aelod-wladwriaethau y Gymuned Ewropeaidd ym 1992 i greu yr Undeb Ewropeaidd.