Afon Meuse

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Meuse (Afon Maas yn yr Iseldiroedd)

Afon yng ngorllewin Ewrop yw Afon Meuse (Iseldireg ac Almaeneg Maas). Mae'n tarddu yn Ffrainc, yna'n llifo trwy Wlad Belg a'r Iseldiroedd; mae'n 925 km (575 milltir) o hyd.

Afon Meuse oedd ffîn orllewinol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig o ddechrau'r ymerodraeth yn y 9fed ganrif hyd pan ddaeth Alsace a Lorraine yn rhan o Ffrainc trwy Gytundeb Westphalia yn 1648.

Tardda'r Meuse ym mhentref Pouilly-en-Bassigny ar lwyfandir Langres (Haute-Marne) yn Ffrainc, a llifa tua'r gogledd trwy départements Vosges, Meuse ac Ardennes, heibio Sedan a Charleville-Mézières i Wlad Belg. Ger Namur mae Afon Sambre yn ymuno a hi. Mae'n awr yn llifo tua'r dwyrain a heibio Liège cyn troi tua'r gogledd i ffurfio'r ffîn rhwng Gwlad Belg a'r Iseldiroedd. Mae'n mynd heibio Maastricht a Venlo, yna'n troi tua'r gorllewin i gyrraedd y môr, gan rannu delta ag Afon Rhein.

Ceir cyfeiriad at yr afon fel ffîn yr Almaen yn Das Lied der Deutschen, Von der Maas bis an die Memel....

01-Namur-100109 (10) JPG.jpg