Afon Sambre
Oddi ar Wicipedia
Afon Sambre yng nghanol Namur.
Afon yn ngogledd Ffrainc a de Gwlad Belg yw afon Sambre. Mae'n llifo i mewn i afon Meuse.
Tardda'r Sambre ger Le Nouvion-en-Thiérache, yn departement Aisne yn Ffrainc, ac mae'n llifo trwy'r departements, taleithiau a threfi canlynol:
- Aisne (Ffrainc): Barzy-en-Thiérache
- Nord (Ffrainc): Landrecies, Aulnoye-Aymeries, Hautmont, Maubeuge
- Hainaut (Gwlad Belg): Thuin, Montigny-le-Tilleul,Charleroi
- Namur: Floreffe, Namur
Yn 57 CC, gorchfygodd Iŵl Cesar gynghrair Belgaidd gan arweiniad llwyth y Bellovaci mewn brwydr ger yr afon. Bu brwydro yma yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf hefyd, yn enwedig Brwydr y Sambre yn 1918.