Nord (département)
Oddi ar Wicipedia
Département yn région Nord-Pas-de-Calais yng ngogledd Ffrainc yw Nord ("Gogledd"). Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 2,555,020; Nord yw'r département mwyaf poblog yn Ffrainc. Yn y dwyrain, mae'n ffinio ar Wlad Belg.
Prifddinas y département yw Lille. Dinasoedd pwysig eraill yw Roubaix, Tourcoing, Villeneuve d'Ascq, Valenciennes, Douai, a Dunkerque.
Ar un adeg roedd y diwydiant glo yn bwysig iawn yma, ac arweiniodd fachlud y diwydiant hwn at lefel uchel o ddiwethdra.