Afon Semois

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Semois

Afon sy'n llifo o ucheldir yr Ardennes yn Ffrainc a Gwlad Belg i gymer ar Afon Meuse yw Afon Semois (Iseldireg: Simwès; Almaeneg: Semoy, Sesbach; weithiau hefyd Semoy yn Ffrainc).

Gorwedd tarddle afon Semois yn Arlon yn nhalaith Felgaidd Lwcsembwrg, ger y ffin a Lwcsembwrg ei hun. Oddi yno mae'n ffinio ar gwrs gorllewinol i FFrainc ar ôl llifo trwy bentref Belgaidd Bohan-sur-Semois i'w chymer ar afon Meuse ym Monthermé. Ei hyd yw 210 km.

Mae lleoedd eraill ar lannau afon Semois yn cynnwys Chiny, Florenville, Herbeumont, Bouillon (yn cynnwys Dohan a Poupehan), a Vresse-sur-Semois (i gyd yng Ngwlad Belg).