Liège

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Maas yn Liège

Dinas yn Walonia yng Ngwlad Belg yw Liège (Iseldireg: Luik, Almaeneg: Lüttich). Saif yn Wallonia, y rhan Ffrangeg ei iaith o'r wlad, a hi yw prifddinas talaith Liège. O 972 hyd 1795, hi oedd prifddinas Tywysogaeth Liège. Roedd y boblogaeth ym mis Mai 2009 yn 194,054.

Sefydlwyd y ddinas tua 700, yn dilyn llofruddiaeth Sant Lambert, esgob Tongres-Maastricht. Symudodd ei olynydd, Sant Hubert, ganolfan yr esgobaeth o Maastricht i Liège.

Roedd brenhinllin y Merofingiaid a'r Carolingiaid yn wreiddiol o'r ardal yma, ac mae cerflun o Siarlymaen yng nhanol y ddinas.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu]

  • Amgueddfa Curtius
  • Eglwys Gadeiriol Saint Paul
  • Eglwys Saint Barthélémy
  • Eglwys Saint-Jacques
  • Neuadd y Dinas
  • Palas y Tywysog-Esgob
  • Place du Marché

Enwogion[golygu]