Diwylliant yr Iseldiroedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Erasmus (1466 - 1536).

Daeth yr Iseldiroedd yn enwog trwy'r byd am ei harlunwyr. Yn y 17eg ganrif, yng nghyfnod Gweriniaeth yr Iseldiroedd, roedd arlunwyr megis Rembrandt van Rijn, Johannes Vermeer, Jan Steen, Jacob van Ruysdael ac eraill. Dilynwyd hwy yn y 19eg a'r 20fed ganrif gan Vincent van Gogh a Piet Mondriaan, Willem de Kooning a'r arlunydd graffig M. C. Escher.

Ymhlith athronwyr enwog yr Iseldiroedd mae Erasmus o Rotterdam a Spinoza, ac yn yr Iseldiroedd y gwnaeth René Descartes ei waith pwysicaf. Mae gwyddonwyr o'r Iseldiroedd yn cynnwys Christiaan Huygens (1629-1695), darganfyddwr Titan, un o leuadau Sadwrn, a dyfeisiwr y cloc pendil, ac Antonie van Leeuwenhoek, y cyntaf i ddisgrifio organebau un gell gyda meicroscop.

Ymhlith awduron pwysicaf yr Iseldiroedd mae Joost van den Vondel a P.C. Hooft o'r 17eg ganrif, Multatuli yn y 19eg ganrif ac yn yr 20fed ganrif awduron fel Harry Mulisch, Jan Wolkers, Simon Vestdijk, Cees Nooteboom, Gerard (van het) Reve a Willem Frederik Hermans. Cyfieithwyd dyddiadur Anne Frank i lawer o ieithoedd.

Flag of the Netherlands.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Iseldiroedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato