Afon Elbe
Oddi ar Wicipedia
Afon Elbe ger Dömitz.
Afon yng nghanolbarth Ewrop sy'n tarddu yng Ngweriniaeth Tsiec ac yn llifo trwy'r Almaen yw afon Elbe (Tsieceg: Labe). Mae'n 1,091.47 km o hyd.
Ceir tarddle'r Elbe ym mynyddoedd y Krkonoše yng Ngweriniaeth Tsiec. Llifa tua'r gogledd-orllewin heibio dinasoedd Dresden, Magdeburg a Hamburg cyn cyrraedd Môr y Gogledd ger Cuxhaven, lle ceir pen gorllewinol Camlas Kiel ar ei haber. Mae'r afonydd sy'n llifo i mewn iddi yn cynnwys afon Moldau (Vltava), afon Saale ac afon Havel.