Batafiaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cynllwyn y Batafiaid dan Claudius Civilis gan Rembrandt van Rijn

Llwyth Almaenaidd yn byw ger aber Afon Rhein yn yr hyn sydd nawr yn wlad yr Iseldiroedd oedd y Batafiaid (Lladin Batavi).

Ceir cyfeiriad atynt gan Iŵl Cesar yn ei lyfr Commentarii de Bello Gallico, lle dywed eu bod yn byw ar ynys a ffurfiwyd lle mae Afon Rhein yn ymrannu yn nifer o afonydd, yn cynnwys y Waal a'r Nederrijn (Rhein Isaf). Ceir cyfeiriadau pellach atynt gan yr haneswyr Rhufeinig Tacitus a Suetonius.

Roeddynt mewn cynghrair a'r Rhufeiniad yng nghanol y ganrif gyntaf, ac yn darparu milwyr cynorthwyol a gymerodd ran mewn llawer o ymgyrchoedd y Rhufeiniaid, yn cynnwys concwest Prydain o 43 OC ymlaen. Yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr (69 OC), gwrthryfelodd y Batafiaid yn erbyn Rhufain dan Gaius Julius Civilis. Gallasant ddinistrio rhai llengoedd Rhufeinig a pherswadio llengoedd eraill i ochri gyda hwy yn erbyn Rhufain. Wedi i Vespasian ddod yn ymerawdwr, gyrrwyd byddin dan Quintus Petillius Cerialis i roi terfyn ar y gwrthryfel.

Yn ystod cyfnod Ymerodraeth yr Iseldiroedd, "Batavia" oedd enw'r ddinas sy'n awr yn Jakarta, prifddinas Indonesia. Efallai fod Betuwe, ardal yn nhalaith Gelderland yn yr Iseldiroedd, wedi ei enwi ar ôl y Batafiaid.