Nijmegen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Dinas yn nhalaith Gelderland, yn nwyrain yr Iseldiroedd, yn agos i'r ffin â'r Almaen, yw Nijmegen (Loudspeaker.svg ynganiad Iseldireg ?/i ). Mae'r ddinas yn dyddio i'r cyfnod Rhufeinig, pryd y sefydlwyd Noviomagus Batavorum (a enwyd ar ôl llwyth y Batafiaid) ar ei safle a phentref yn gyfagos; gwersyll milwrol ar gyfer Germania Inferior oedd hi. Yn y Canol Oesoedd, roedd Nijmegen yn ganolfan fasnachol. Derbyniodd siarter dinas gan Ffrederic II yn 1230. Mae'n gartref i Brifysgol Radboud Nijmegen, prifysgol babyddol hyna'r wlad, a sefydlwyd yn 1923. Poblogaeth y ddinas yw 159,556 (2006).

Adeiladau a chofadeiladau[golygu]

  • Amgueddfa Affrica
  • Eglwys San Steffan
  • Prifysgol Radboud Nijmegen

Enwogion[golygu]

Flag of the Netherlands.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Iseldiroedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato