Hanes Cernyw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y llwythi Celtaidd yng Nghernyw.
Gweddillion y castell Normanaidd yn Tintagel.

Mae hanes Cernyw yn dechrau gyda chysylltiadau rhwng Cernyw a marsiandïwyr o wledydd o gwmpas Môr y Canoldir oedd yn cael eu denu yma gan y mwynfeydd tun. Roedd tun yn cael ei gynhyrchu yng Nghernyw o Oes yr Efydd; roedd y metel yn arbennig o bwysig gan ei fod yn cael ei gymysgu a chopr i gynhyrchu efydd. Daw'r cofnod hanesyddol cyntaf am Gernyw gan yr hanesydd Groegaidd Diodorus Siculus (c.90 CC–c.30 CC);

Gelwid Cernyw yn Cornubia gan y Rhufeiniaid, ond nid oes llawer o olion Rhufeinig wedi eu darganfod yma. Erbyn y cyfnod yma roedd tun i'w gael yn haws o Benrhyn Iberia, felly roedd pwysigrwydd economaidd yr ardal yn llai. Wedi i'r Rhufeiniaid adael ymddengys fod Cernyw yn rhan o deyrnas Frythonig Dumnonia neu Dyfnaint. Ymddangosodd teyrnas Cernyw tua'r 6ed ganrif. Hon oedd Oes y Saint, a daeth nifer o seintiau Cernyw i amlygrwydd, yn enwedig Sant Piran.

Erbyn yr 8fed ganrif roedd Dyfnaint wedi ei goresgyn gan yr Eingl-Sacsoniaid. Enillodd y Brythoniaid frwydr yn "Hehil" yn 721, ond yn 838 gorchfygwyd cynghrarir o Frythoniaid a Daniaid gan Egbert, brenin Wessex. Cofnodwyd yn yr Annales Cambriae am 875 fod Dungarth, brenin Cerniu ("id est Cornubiae") wedi boddi. Yn 936, nodir i Athelstan osod Afon Tamar fel ffin orllewinol Wessex.

Erbyn 1066 ystyrid Cernyw yn rhan o Deyrnas Lloegr, ond roedd ganddi rywfaint o annibynniaeth yn parhau fel is-deyrnas. Diorseddwyd brenin olaf Cernyw, Cadog, gan y Normaniaid. Datblygodd llenyddiaeth boblogaidd Gernyweg yn y 14eg ganrif. Cyn cyfnod y Tuduriaid byddid yn aml yn nodi bod cyfreithiau'n weithredol in Anglia et Cornubia; ond o gyfnod y Tuduriaid ymlaen cymerwyd fod "Anglia" yn cynnwys Cernyw.

Bu gwrthryfel yn 1497, gan ddechrau ymhlith y mwynwyr tun, oedd yn gwrthwynebu cynnydd yn y trethi. Gorymdeithiodd y gwrthryfelwyr tua Llundain, ond gorchfygwyd hwy ym mrwydr Pont Deptford. Bu gwrthryfel arall yn erbyn y Llyfr Gweddi Protestannaidd yn 1549. Heblaw fod mwyafrif y Cernywiaid yn Gatholigion ar y pryd, roedd y Llyfr Gweddi Gyffredin newydd yn Saesneg, iaith nad oedd mwyafrif y Cernywiaid yn ei deall. Dywedir i ugain y cant o boblogaeth Cernyw gael ei lladd yn y gwrthryfel yma, un o'r ffactorau a arweiniodd at ddirywiad yn sefyllfa'r iaith. Bu farw Dolly Pentreath, siaradwr olaf y Gernyweg yn ôl y chwedl yn 1777, ond mae tystiolaeth i siaradwyr eraill fyw tan ddechrau'r 19eg ganrif.

Baner Mebyon Kernow

Yn 1755 tarawyd arfordir Cernyw gan tsunami a achoswyd gan ddaeargryn mawr Lisbon. Parhaodd mwynfeydd tun Cernyw yn bwysif yn y 18fed ganrif, ond erbyn ail hanner y 19eg ganrif roedd y tun yn dechrau darfod, ac ymfudodd llawer o Gernywiaid. Tua diwedd y 18fed ganrif tyfodd Methodistiaeth yn gyflym yng Nghernyw yn dilyn ymweliadau gan John a Charles Wesley.

Ffurfiwyd plaid genedlaethol Mebyon Kernow yn 1951 i geisio ennill hunanlywodraeth. Nid yw'r blaid wedi llwyddo i ennill sedd yn Nhy'r Cyffredin hyd yma.


Blodau Grug Hanes y Gwledydd Celtaidd Sbiral triphlyg

Hanes yr Alban | Hanes Cernyw | Hanes Cymru | Hanes Iwerddon | Hanes Llydaw | Hanes Manaw

Gwelwch hefyd: Y Celtiaid