Methodistiaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Dysgeidiaeth ac athrawiaeth a rennir gan grŵp o enwadau Cristnogol Protestannaidd sydd â chysylltiadau hanesyddol rhyngddynt yw Methodistiaeth. Gellir olrhain hanes Methodistiaeth i'w darddiad yn athrawiaeth efengylaidd John Wesley. Dechreuodd yn yr 18fed ganrif ym Mhrydain trwy weithredau cenhadol egnïol, a lledaenodd i sawl rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig, yr Unol Daleithiau, a'r tu hwnt.

Yng Nghymru dechreuodd y Methodistiaid ymledu ar draws y wlad ganol y 18fed ganrif, o'u gwreiddiau yn y de-orllewin a Brycheiniog, diolch yn bennaf i waith cenhadol Howel Harris a'i gylch.

Gweler hefyd[golygu]

Cruz template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.