Howel Harris

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llythyr yn llawysgrifen Harris.

Un o arloeswyr y Diwygiad Methodistaidd oedd Howel Harris (1714 - 21 Gorffennaf 1773). Roedd yn frodor o Drefeca ym Mrycheiniog (Powys erbyn heddiw).

Bu yn Academi Llwyn-lwyd tan ei fod yn 17 oed. Bu wedyn yn ysgolfeistr ar ysgolion Llangors, Llangasty a Talgarth.

Yn y cyfnod rhwng Sul y Blodau 1735, pan fu'n gwrando ar bregeth Ficer Talgarth, a'r Sulgwyn cafodd droedigaeth. Fe fu yn gyfrifol am gychwyn y Seiat oedd mor bwysig i'r Methodistiaid. Roedd y rhai a oedd dan ddylanwad Howel yn dod at ei gilydd i astudio'r Beibl ac i drafod y ffordd Gristnogol o fyw. Yn 1737 cyfarfu am y tro cyntaf â Daniel Rowland, Llangeitho.

Howel Harris

Ei freuddwyd ef oedd sefydlu Teulu Trefeca. Gwahoddodd nifer o bobl i ddod i fyw i Drefeca. Roedd rhai yn gweithio ar y tir neu wrth eu crefft megis gwneud basgedi, gwaith lledr, tyrnio, rhwymo llyfrau, argraffu a nyddu. Roedd pawb yn dod at ei gilydd dair gwaith y dydd i gydaddoli.

Mae wedi ei gladdu wrth yr allor yn Eglwys Talgarth, yn yr hen Sir Frycheiniog.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • M.H. Jones (gol.), The Trevecka Letters (1932)
  • Geoffrey F. Nuttal, Howell Harris (1963)
  • Gomer M. Roberts, Portread o Ddiwigiwr (1969)
  • idem (gol.), Selected Trevecka Letters 1742-47 (1956)
  • Geraint Tudur, 'Papurau Howell Harris', yn Cof Cenedl XVI, Gwasg Gomer, 2001.