Afon Tamar
Oddi ar Wicipedia
Afon Tamer, gyda'r enwau mewn Cernyweg.
Afon yn ne-orllewin gwledydd Prydain yw Afon Tamar. Mae ei chwrs yn ffurfio'r rhan fwyaf o'r ffin rhwng Cernyw a Dyfnaint.
O'i tharddle rhwng Bude (Cernyw) a Clovelly (Dyfnaint) mae hi'n rhedeg ar gwrs deheuol bron ar draws penrhyn y de-orllewin gan groesi rhosdir Gwaun Bodmin a llifo i Fôr Udd ger Plymouth mewn aber eang sy'n ffurfio un o angorfeydd gorau gwledydd Prydain.
Yn 936, nodir i Athelstan osod Afon Tamar fel ffin orllewinol Wessex. Hyd heddiw mae'r afon yn nodi'r ffin rhwng Cernyw a Dyfnaint am y rhan fwyaf o'i chwrs.