Enda Kenny

Oddi ar Wicipedia
Enda Kenny
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Enda Kenny TD
Enda Kenny


Cyfnod yn y swydd
9 Mawrth 2011 – 14 Mehefin 2017
Rhagflaenydd Brian Cowen
Olynydd Leo Varadkar

Geni 24 Ebrill 1951
Castlebar, Swydd Mayo, Gweriniaeth Iwerddon
Etholaeth Mayo Gorllewin
Plaid wleidyddol Fine Gael
Priod Fionnuala O'Kelly
Crefydd Catholigiaeth Rhufeinig

Gwleidydd Gwyddelig a'r arweinydd y blaid Fine Gael yn Dáil Éireann yw Enda Kenny (ganwyd 24 Ebrill 1951). Cafodd ei eni yn Castlebar, Swydd Mayo ym 1951. Ar 5 Mehefin 2002, cafodd ei ethol fel arweinydd plaid Fine Gael a daeth yn Brif Weinidog ar 9 Mawrth 2011.

Kenny oedd Taoiseach cyntaf Fine Gael ers John Bruton (1994–1997), ac arweinydd cyntaf Fine Gael i ennill etholiad cyffredinol ers Garret FitzGerald yn 1982. Daeth y Taoiseach hiraf mewn sydd ym mis Ebrill April 2017.[1] Fe'i olynwyd ef fel taoiseach gan Leo Varadkar ar 17 Mehefin 2017. Mae Varadkar hefyd o blaid Fine Gael.

Nodweddwyd ei gyfnod fel Prif Weinidog gan bolisïau o 'lymder' er mwyn delio gyda dirwasgiad byd-eang a ddigwyddodd yn 2008. Roedd ei bolisiau'n amhoblogaidd gan garfan sylweddol o'r boblogaeth ond heb fod yn ddigon i'w blaid golli etholiad. Disgrifiwyd y polisiau economaidd fel heb gydymffurfio i "naill ai patrwm blaengar (colledion yn cynyddu gydag incwm) na phatrwm adweithiol (colledion yn lleihau gydag incwm).[2]

Un o nodweddion symbolaidd fwyaf ei arweinyddiaeth oedd rhoi ymddiheuriad cenedlaethol ar 19 Cwhefror 2013 i Dáil Éireann i'r rhai a ddioddefodd yn Golchdai Maghalene (lle cadwyd plant amddifad). Dywedodd y Llywodraeth y byddent yn creu cynllun compensation i'r 800 - 1,000 o bobl oedd yn fyw ac wedi dioddef.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]