Garret FitzGerald
Oddi ar Wicipedia
Seithfed Taoiseach Gweriniaeth Iwerddon oedd Garret FitzGerald, Gwyddeleg: Gearóid Mac Gearailt (9 Chwefror 1926 – 19 Mai 2011). Gwasanaethodd o fis Gorffennaf 1981 hyd Chwefror 1982 ac o Ragfyr 1982 hyd fis Mawrth 1987.
Ganed ef yn Nulyn, yn fab i Desmond FitzGerald, oedd yn Weinidog Materion Allanol ar y pryd. Etholwyd ef i Seanad Éireann yn 1965 ac i Dáil Éireann dros blaid Fine Gael yn 1969. Bu'n arweinydd Fine Gael o 1977 hyd 1987.
| Prif Weinidogion Iwerddon |
|
Éamon de Valera (3 gwaith) | John A. Costello (2 waith) | Sean Lemass | Jack Lynch (2 waith) | Liam Cosgrave | Charles J. Haughey (3 gwaith) | Garret FitzGerald (2 waith) | Albert Reynolds | John Bruton | Bertie Ahern | Brian Cowen | Enda Kenny |