Senedd yr Alban
█ Plaid Genedlaethol yr Alban (47)
█ Llafur (46)
█ Cedwadol (16)
█ Y Democratiaid Rhyddfrydol (16)
█ Plaid Werdd yr Alban (2)
█ Annibynnwr (1)
█ Llywydd
Senedd yr Alban yw corff deddfwriaethol datganoledig yr Alban. Fe'i lleolir yn Holyrood, sy'n rhan o Gaeredin a chaiff ei galw'n answyddogol, ar adegau, yn 'Holyrood'[1]. Yn wahanol i Cynulliad Cenedlaethol Cymru mae gan Senedd yr Alban y grym i greu deddfau ar gyfer yr Alban a chodi neu newid trethi. Yn groes i gamdybiaeth cyffredinol, tydy'r Senedd ddim yn gorff 'newydd' gan ei bod yn deillio yn ôl i'r Oesoedd Canol. Mae hi'n gorff democrataidd sydd a 129 Aelodau Senedd yr Alban (Members of the Scottish Parliament (MSPs)) ac sy'n cael eu hethol am gyfnod o bedair mlynedd. Defnyddir y system etholiad cynrychioliadol yma, gyda 73 ASA yn dod o etholaethau daearyddol ("cyntaf heibio'r postyn") a 56 yn cael eu hethol o wyth 'Rhanbarth Aelodau Ychwanegol' gyda phob Rhanbarth yn ethol saith ASA.
Roedd etholiad diwethaf y Senedd ar 3 Mai 2007.
Yn refferendwm 1997 pleidleisiodd pobl yr Alban dros ddatganoli a ffurfiwyd y Senedd bresennol drwy Ddeddf yr Alban 1998, su'n rhestru pwerau Deddfau Datganoledig h.y. mae'n rhestru'r Deddfau hynny na ellir eu defnyddio oddigerth gan Senedd y Deyrnas Unedig (San Steffan).[2] Mae'r materion hynny nad ydynt yn cael eu rhestru o fewn sgôp Senedd yr Alban. Mae senedd y Deyrnas Unedig hefyd wedi cadw'r hawl i newid y rhestr.
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Llywodraeth ar 12 Mai 1999.[3]
[golygu] Cyfeiriadau