Charles Edward Stuart

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Charles Edward Stuart

Ŵyr i'r brenin Iago II/VII o Loegr a'r Alban o Loegr a'r Alban oedd Charles Edward Stuart (31 Rhagfyr 1720 - 31 Ionawr 1788) (Gaeleg: Teàrlach Eideard Stiùbhairt, yn adnabyddus wrth ei lysenw Saesneg, Bonnie Prince Charlie).

Roedd Charles yn fab i James Francis Edward Stuart, yntau yn fab i Iago II/VII, oedd wedi ei ddiorseddu yn 1688. Ganed Charles yn Rhufain, a theuliodd ei ieuenctid yno ac yn Bologna.

Cefnogid hawl y Stiwartaid i'r orsedd gan fudiad y Jacobitiaid, oedd yn cymeryd ei enw o'r Lladin Jacobus ("Iago"). Roedd cefnogaeth sylweddol iddynt yn Ucheldiroedd yr Alban, a rhywfaint yng ngweddill yr Alban a gogledd Lloegr ac ychydig yng Nghymru hefyd.

Ar 23 Gorffennaf, 1745, glaniodd Charles a saith cydymaith yn Eriskay yn Ucheldiroedd yr Alban, i gefnogi hawl ei dad i'r orsedd. Cododd faner ei dad yn Glenfinnan, a llwyddodd i godi digon o ddilynwyr i ymdeithio tua dinas Caeredin. Ar 21 Medi 1745, gorchfygodd fyddin y llywodraeth ym Mrwydr Prestonpans, ac erbyn Tachwedd roedd ganddo fyddin o 6,000. Ymdeithiodd tua'r de, gan anelu am Lundain, a chyrhaeddodd cyn belled a Derby. Yma, oherwydd diffyg cefnofaeth gan Jacobitiaid Lloegr, penderfynwyd troi'n ôl am yr Alban. Gorchfygwyd ei fyddin gan fyddin y llywodraeth dan William Augustus, Dug Cumberland ar 16 Ebrill 1746 ym Mrwydr Culloden. Bu Charles ar ffô yn Ucheldiroedd yr Alban am fisoedd cyn medru dychwelyd i Ffrainc ym mis Medi. Bu fyw yn Ffrainc a'r Eidal hyd ei farwolaeth.

Er fod cryn nifer o Jacobitiaid yng Nghymru, nid ymddengys i fawr o Gymry gymeryd rhan yn ymgyrch 1745. Dywedir i Charles yn ddiweddarach, wrth sôn beth a wnai dros y Jacobitiaid Cymreig, ddweud "Mi yfaf iechyd da iddyn nhw - dyna'r cyfan wnaethon nhw i mi".